Skip to main content
 

Adborth pwysig gan gwsmeriaid wedi sbarduno newid i'n system cadw lle.

 
 

Mae tocynnau Lido Ponty wastad wedi cael eu rhyddhau 7 diwrnod ymlaen llaw.

Mae hyn yn golygu nad oes modd prynu tocynnau ar gyfer sesiwn dydd Sadwrn cyn y dydd Sadwrn blaenorol.

Yn y gorffennol, mae tocynnau wedi cael eu rhyddhau fesul amser yn ôl ein hamserlen.

Felly byddai tocynnau ar gyfer sesiwn nofio ben bore ar ddydd Sadwrn (7.30am), er enghraifft, yn cael eu rhyddhau am 7.30am y dydd Sadwrn cynt.

Yn yr un modd, byddai tocynnau ar gyfer y sesiwn nofio i deuluoedd (2pm) yn cael eu rhyddhau am 2pm y dydd Sadwrn cynt, sesiynau 3.30pm yn cael eu rhyddhau am 3.30pm, ac ati.

Mae'r drefn yma bellach wedi newid.

Bydd tocynnau'n cael eu rhyddhau 7 diwrnod ymlaen llaw o hyd, ond rydyn ni wedi newid amseroedd rhyddhau tocynnau.

Mae hyn yn golygu y bydd modd mynd ar wefan Lido Ponty am 7.30am a phrynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau sy'n cael eu cynnal ar yr un diwrnod yr wythnos ganlynol.

Enghraifft

Dydd Gwener 14 Mai (2 x sesiwn nofio ben bore am 6.30am ac 8am) - Rhyddhau tocynnau Dydd Gwener 7 Mai am 6.30am

Dydd Sadwrn 15 Mai (1 x sesiwn nofio ben bore am 7.30am a 7 x sesiwn nofio i deuluoedd) - Rhyddhau tocynnau Dydd Sadwrn 8 Mai am 7.30am

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5th Mai 2021
 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo