Skip to main content
 

Oedolion (16+)

Cyngor ar gyfer y grŵp oedran yma

Dylai oedolion wneud rhyw fath o ymarfer corff bob dydd. Yn ddelfrydol, dylai oedolion wneud 150 munud o weithgaredd cymedrol yr wythnos. Yr argymhelliad yw eu bod nhw'n gwneud ymarferion i gryfhau'r prif grwpiau o gyhyrau ar o leiaf 2 ddiwrnod o'r wythnos. 

Bydd modd bwrw'ch targed wythnosol hefyd trwy wneud 75 munud o weithgaredd egnïol bob wythnos. Sicrhewch fod math a dwysedd y gweithgaredd yn addas at lefel eich ffitrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd corfforol, ewch i: www.nhs.uk/live-well/exercise/

Syniadau ar gyfer gweithgareddau

Beth am gymryd rhan mewn gweithgaredd roeddech chi'n arfer ei wneud? Os yw hynny'n fath ar chwaraeon sy'n rhy heriol i chi nawr, addaswch! (e.e. pêl-rwyd neu bêl-droed cerdded)

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd a mynd gyda ffrind!

Gwnewch ymarfer corff gartref neu fynd i redeg - rhowch gynnig ar 'Couch to 5k'!

Syniadau ar gyfer ymarfer corff cymedrol:

  • Cerdded yn fywiog
  • Reidio beic
  • Dawnsio
  • Erobeg dŵr
  • Dosbarthiadau ffitrwydd dwysedd isel

Syniadau ar gyfer ymarfer corff egnïol:

  • Ymarfer gan ddefnyddio pwysau
  • Dosbarthiadau ffitrwydd dwys
  • Rhedeg ysbeidiol
  • Chwaraeon megis sboncen, pêl-rwyd, pêl-droed

Gweithgareddau i gryfhau'r cyhyrau:

  • Ioga
  • Pilates
  • Tai Chi
  • Ymarferion pwysau'r corff megis 'push ups' a 'sit ups'

Rydyn ni'n rhannu enghreifftiau o weithgareddau cyffrous ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Edrychwch ar @chwaraeonRhCT @sportrct ar Facebook, Twitter ac Instagram! Mae App gyda ni sy'n rhoi llawer o syniadau ar gyfer gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored, ynghyd â chyfarwyddiadau a fideos. Lawrlwythwch yr App Hamdden am Oes AM DDIM ac ychwanegu ChwaraeonRhCT/Sportrct fel 'clwb'.

Rhaglen Chwaraeon yn y Gymuned

Nod ein Rhaglen Chwaraeon Cymunedol yw darparu ystod o gyfleoedd i bobl o bob oedran a gallu, ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r rhaglen isod wedi’i datblygu ar y cyd ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a chlybiau/grwpiau cymunedol. Ni sy'n cynnal rhai o'r sesiynau ac mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal gan ein partneriaid. Cliciwch yma am y rhaglen lawn.

Clybiau Chwaraeon Cymunedol

Mae dros 300 o glybiau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf. Mae mwyafrif y clybiau hyn yn darparu cyfleoedd i oedolion 16 oed a hŷn. Rydyn ni'n gweithio gyda'r clybiau hyn i sicrhau eu bod yn darparu gweithgareddau hwyl diogel a chynhwysol i blant.

CLICIWCH YMA i weld ein Map Clybiau Chwaraeon a dod o hyd i glybiau chwaraeon yn eich ardal chi.

Cerdded RhCT

Cerdded RhCT yw'r gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig i grwpiau cerdded newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli yn Rhondda Cynon Taf. Gan gysylltu â gwirfoddolwyr, rydyn ni'n hyfforddi, yswirio a chefnogi grwpiau fel bod modd iddyn nhw ddarparu teithiau cerdded diogel a chynhwysol i drigolion RhCT.

CLICIWCH YMA i gael y manylion llawn.

Camau i Famau

Mae cynllun 'Camau i Famau' wedi'i ddatblygu gan Chwaraeon RhCT a Hamdden am Oes i helpu menywod sy'n dymuno cadw'n heini yn ystod eu beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth. Mewn partneriaeth â Hamdden am Oes rydyn ni'n cynnig ystod o sesiynau ymarfer corff cyn ac ar ôl geni mewn canolfannau hamdden ar draws Rhondda Cynon Taf.

CLICIWCH YMA i gael y manylion llawn.

Hwyl awyr agored

Mae cerdded yn ffordd wych o fod yn egnïol yn gorfforol. Yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n ffodus bod gyda ni ystod eang o lwybrau cerdded sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu. Mae teithiau cerdded lefel isel i'r teulu yn ogystal â llwybrau lefel uchel mwy uchelgeisiol — a digonedd o lwybrau canolig eu lefel hefyd. Yma, mae fideos a mapiau o'r llwybrau, a fydd yn eich helpu chi i ymgyfarwyddo â'r llwybr, a gobeithio yn eich annog i roi cynnig arni.

Mae beicio yn ffordd hwyliog a difyr o gadw'n gorfforol egnïol. Yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n ffodus bod gyda ni ystod eang o lwybrau, sy'n rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol. Mae rhannau o rai llwybrau ar y ffordd gerbydau, ond mae llawer ohonyn nhw oddi ar y ffordd a heb draffig. Mae digon o lwybrau tarmac oddi ar y ffordd sy'n berffaith ar gyfer y teulu. Mae digon o lwybrau mwy heriol i feicwyr hyderus lle byddwch chi'n beicio ar y ffordd gerbydau, ar lwybrau graean ac ar rai serth hefyd. Yma, mae fideos a mapiau o'r llwybrau, a fydd yn eich helpu chi i ymgyfarwyddo â'r llwybr, a gobeithio yn eich annog i roi cynnig arni.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas