Skip to main content
 

Cynllun Llysgenhadon Ifainc

Mae gan Chwaraeon Rhondda Cynon Taf dros 100 o Lysgenhadon Ifainc yn gweithio mewn ysgolion a chymunedau. Maen nhw'n fodelau rôl ac arweinwyr mewn chwaraeon sy'n gweithio i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon a ffyrdd iach o fyw.

Beth yw'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc?

Nod y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn arweinwyr drwy chwaraeon, gan helpu i annog eu cyfoedion segur i wirioni ar chwaraeon. Nod y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yw recriwtio, defnyddio a dathlu'r unigolion eithriadol sy'n gwirfoddoli eu hamser yn y byd chwaraeon.

Disgwylir y canlynol gan yr holl Lysgenhadon Ifanc:

  • Bod yn llais person ifanc ar gyfer Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn yr      ysgol a'r gymuned
  • Hybu gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon
  • Bod yn fodel rôl a hyrwyddo Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol
  • Cynyddu cyfleoedd cymryd rhan a ffyrdd iach o fyw er mwyn helpu i gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes 

Llwybr Llysgenhadon Ifanc

Mae llwybr y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru'n cynnwys pedair lefel sy'n amrywio o Lysgenhadon Ifanc Efydd mewn Ysgolion Cynradd i Lysgenhadon Ifanc Arian ac Aur mewn Ysgolion Uwchradd a cholegau ac wedyn Llysgenhadon Ifanc Platinwm, sef yr unigolion mwyaf profiadol.

Llysgenhadon Ifanc Efydd

Pwy ydyn nhw?

  • Hyrwyddwyr Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn eu hysgol gynradd a/neu gymuned
  • Arweinwyr tîm ar arweinwyr chwaraeon eraill yn yr ysgol 


Beth ydyn nhw'n ei wneud?

  • Cyflwyno canlyniadau'r Llysgenhadon Ifanc yn eu hysgolion cynradd
  • Gweithio gyda'r athrawon i drefnu digwyddiadau ar gyfer yr ysgol
  • Arwain a threfnu gweithgareddau ar y buarth chwarae
  • Dod yn ohebwyr ‘chwaraeon ysgol’ gan dynnu sylw at y gwaith da maen nhw'n ei wneud
  • Hybu chwaraeon yn yr ysgol drwy gylchlythyrau a ffilmiau
  • Cefnogi arweinwyr hŷn i gyflwyno sesiynau mewn ysgolion a chymunedau



Llysgenhadon Ifanc Arian

Pwy ydyn nhw?

  • Hyrwyddwyr Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn eu hysgol uwchradd  a/neu gymuned

Beth ydyn nhw'n ei wneud?

  • Cyflwyno canlyniadau'r Llysgenhadon Ifanc yn eu hysgolion uwchradd
  • Arwain a threfnu cyfleoedd chwaraeon allgyrsiol 
  • Cefnogi digwyddiadau lleol a chlybiau cymunedol
  • Dod yn ohebwyr ‘chwaraeon ysgol’ gan dynnu sylw at y gwaith da maen nhw'n ei wneud
  • Hybu chwaraeon yn yr ysgol ac yn y gymuned drwy gyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, ffilmiau ac ati

 


Llysgenhadon Ifanc Aur

Pwy ydyn nhw?

  • Llysgenhadon Ifanc sy'n perfformio i safon uchel ac sy'n gallu hyrwyddo Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn eu Hawdurdod Lleol ac yn genedlaethol
  • Arweinwyr tîm ar Lysgenhadon Ifanc eraill ar draws yr Awdurdod Lleol

Beth ydyn nhw'n ei wneud?

  • Cyflwyno canlyniadau'r Llysgenhadon Ifanc ar draws yr Awdurdod Lleol
  • Gweithio gyda Thimau Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol i drefnu a hybu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol ar draws yr Awdurdod Lleol
  • Trefnu a chyflwyno hyfforddiant i Lysgenhadon Ifanc Arian ac Efydd
  • Cefnogi digwyddiadau ledled yr Awdurdod Lleol – cyfarfod a chyfarch pobl bwysig, siarad cyhoeddus
  • Cefnogi a mentora Llysgenhadon Ifanc iau i fod y gorau y gallan nhw fod
  • Cyflwyno canlyniadau'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol i gynulleidfaoedd amrywiol

 


Llysgenhadon Ifanc Platinwm

Pwy ydyn nhw?

  • Blwyddyn o brofiad, o leiaf, fel Llysgennad Ifanc Aur
  • Llysgenhadon Ifanc nodedig iawn sy'n hyrwyddwyr Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn eu Hawdurdod Lleol ac yn genedlaethol
  • Arweinwyr tîm ar Lysgenhadon Ifanc eraill ledled Cymru ac yn eu Hawdurdod Lleol
  • Aelodau o Grŵp Llywio Cenedlaethol Llysgenhadon Ifanc Cymru

Beth ydyn nhw'n ei wneud?

  • Gweithio gyda Thimau Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol a Llysgenhadon Ifanc eraill i hybu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol ar draws yr Awdurdod Lleol

  • Cefnogi a mentora Llysgenhadon Ifanc

  • Parhau i fod yn Llysgennad Ifanc mewn addysg bellach ac addysg uwch 

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas