Skip to main content
 

Cynlluniwch eich Ymweliad

Cysylltu â ni:

Parc Gwledig Cwm Dâr
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 7PS (defnyddiwch CF44 7PS ar gyfer llywion â lloeren)  

Ffôn: 01685 874672

E-bost: ParcGwledigCwmDâr@rctcbc.gov.uk

Dod o hyd i ni:

Defnyddiwch CF44 7PS ar gyfer llywion â lloeren.

Ewch tuag at Ganol Tref Aberdâr, a dilynwch yr A4233 (Heol Maerdy). Ewch i fyny'r rhiw serth (Rhiw’r Mynach), cymerwch y 4ydd troad i'r chwith i mewn i Highland Place ac yna cymerwch yr ail droad i'r chwith (ger yr ardal chwarae).  Ar ôl oddeutu 50 medr fe welwch y fynedfa i'r parc gwledig ar y dde i chi.  Mae'r Ganolfan Ymwelwyr oddeutu milltir ar hyd y ffordd.

O Gymoedd Rhondda (Maerdy) cymerwch yr A4233 dros y mynydd ac i lawr y rhiw serth.  Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith (Highland Place).

Defnyddiwch y fynedfa o gyfeiriad Aberdâr.

Meysydd Parcio:

Mae lle i barcio ceir, cartrefi modur a bysiau ar y safle.

Cŵn

Mae croeso i gŵn. Ewch i'r tudalennau Iechyd Cyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am reolau cyffredinol sy'n ymwneud â chŵn yn ein mannau agored.

Codwch faw eich ci a defnyddiwch y biniau baw a ddarperir.

Ni chaniateir cŵn yn yr ardaloedd chwarae.

Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn un o ddeuddeg o leoliadau Canolfan Ddarganfod ledled De Cymru.
Mae'r Canolfannau Darganfod PRhC yn borth i'r tirlun a diwylliant Cymreig sy'n rhannau annatod o hanes Cymoedd De Cymru. Maen nhw'n llefydd i grwydro, mwynhau ac anturio wrth ddysgu mwy am fyd natur.
Yn 2019 derbyniodd Parc Gwledig Cwm Dâ gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Barc Rhanbarthol y Cymoedd.  O ganlyniad i'r cyllid a statws Canolfan Ddarganfod PRhC, gallwch ddod o hyd i faes chwarae newydd, beiciau i'w llogi a'u defnyddio ar lwybrau'r Parc Beiciau Disgyrchiant i deuluoedd, maes parcio newydd sbon, maes carafanau sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar gyda bloc cawodydd a gwesty hyfryd.  Gwnaethpwyd hyn oll â chymorth Parc Rhanbarthol y Cymoedd.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Barc Rhanbarthol y Cymoedd a'r Canolfannau Darganfod eraill yma.