Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cynlluniwch eich ymweliad

 
How-to-find-us-Transport

Mae Rhondda Cynon Taf yn ddim ond 20 munud mewn car o Gaerdydd, prifddinas Cymru. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n hawdd cyrraedd ein golygfeydd mawreddog a'n hatyniadau.

Does dim tollau ar Bont Hafren bellach. Mae hyn yn golygu does dim esgus dros beidio dod am wyliau bach gwych yn Ne Cymru!

Mae Llundain, Birmingham a Rhydychen yn agosach na rydych chi'n meddwl - mae hi'n daith o ddwy i dair awr mewn car o'r dinasoedd yma i gyrraedd ein bryniau a'n dyffrynoedd deniadol.

Rydyn ni dim ond yn awr o daith mewn car o Fryste neu Gaerloyw.

Os ydych chi'n dod o ymhellach i ffwrdd, mae'n hawdd cyrraedd Rhondda Cynon Taf o'r M4 (cyffordd 32, 34 a 35), a'r A470 a'r A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd). 

Dod o hyd i ffyrdd o deithio o gwmpas Rhondda Cynon Taf ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Traveline Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau bod newidiadau’n cael eu diweddaru ar ei system cyn gynted â phosibl. I gael manylion yr holl newidiadau diweddaraf i wasanaethau ledled Cymru, ewch i Traveline Cymru

Tourism-Map
Location-Table-Welsh