Skip to main content

Amdanom ni

 

Oriau Agor

Rydyn ni ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.  Mae un daith yr awr rhwng 10am a 3pm ar y dyddiau yma.  I gadw'ch lle ar daith, cliciwch yma

Cyrraedd yr amgueddfa

Mae Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar hen safle Glofa Lewis Merthyr yng nghanol Cwm Rhondda ac mae'n lle rhyfeddol i bawb o bob oedran ymweld ag ef.  Mae Taith yr Aur Du'n cael ei harwain gan ein tywyswyr a fu'n gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Byddan nhw'n rhannu eu profiadau a'u straeon o weithio dan ddaear ac yn adrodd hanes yr Aur Du a gafodd ei gludo o Gwm Rhondda i weddill y byd. Ar ddiwedd pob taith, bydd cyfle i chi neidio ar y DRAM! Ein dram lo rithwir yw hon. Byddwch chi'n cael eich syfrdanu!  Yn ogystal â'r daith, mae caffi gyda ni sy'n gweini prydau bwyd a byrbrydau, arddangosfeydd rhyngweithiol am ddim i'w gweld a siop grefftau sydd wedi gwobrau.

Mae'n ddiwrnod llawn antur i bob aelod o'r teulu.

Cwrdd â'r Glowyr

Mae gan ein tywyswyr dros 80 o flynyddoedd o brofiad yn gweithio dan ddaear. Yn wir, mae'r tywyswyr yn deall yr hyn maen nhw'n sôn amdano!