Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Y Bathdy Brenhinol – Canolfan Ymwelwyr

 
Parc Busnes Llantrisant, Llantrisant, Pont-y-clun CF72 8YT

Am y tro cyntaf mewn mil o flynyddoedd, bydd y Bathdy Brenhinol yn croesawu ymwelwyr i'w ganolfan newydd i ymwelwyr. Bydd pawb sy'n ymweld â'r Bathdy Brenhinol yn cael mynd ar daith dywys o amgylch y mannau gwneud darnau arian a chael gwybod o lygad y ffynnon am y broses o droi syniad yn ddarn o arian. Mae treftadaeth y sefydliad yn ymestyn dros fil o flynyddoedd, a bydd taith hunan-dywys o amgylch profiadau sefydlog a rhyngweithiol yn dod â'r dreftadaeth gyfoethog honno yn fyw. Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr gael gwybod am yr hanesion ingol y tu ôl i broses gwneud medalau'r Bathdy Brenhinol.

Bydd y ganolfan newydd i ymwelwyr yn atyniad drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd. Bydd y ganolfan yn creu safle treftadaeth gyfoethog wrth ochr ffatri weithredol, ac yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr.

Ewcg i'n gwefan ar Youtube