Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Teyrnas y Grogiaid – Siop ac Amgueddfa

 

Broadway, Treforest, Pontypridd CF37 1BH

Mae Teyrnas y Grogiaid yn siop grefft deuluol, unigryw, sy'n cynnwys modelau bach wedi'u gwneud a'u paentio â llaw. Maen nhw'n seiliedig ar gymeriadau o fyd chwaraeon, byd roc a phop, byd sinema a byd diwylliant poblogaidd. Mae'r dewis eang o fodelau bach hefyd yn cynnwys rhai sy'n seiliedig ar hanes glofaol Cymru, defaid a dreigiau doniol. Mae modd gweld y rhain i gyd yn cael eu gwneud yn stiwdio'r siop. Mae'r siop wedi sefyll ym Mhontypridd ers dros 40 o flynyddoedd, ac mae hi wedi troi'n ogof Aladin sy'n llawn pethau cofiadwy sy'n denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae yno amgueddfa fach sy'n olrhain hanes y Grogiaid o'r dyddiau cynnar mewn cwt glo i'r statws byd-enwog sydd ganddyn nhw erbyn hyn.