Mae'r safle'n cynnig digon o le i barcio y tu allan i'r maes parcio yn y nos. Mae'r safle mewn lle cyfleus rhwng Trehopcyn a Threhafod. Mae'r parc yn cynnig golygfeydd da i'r de, ond mae rhywfaint o'r olygfa wedi'i chuddio i'r gorllewin ac i'r dwyrain.
Cyfarwyddiadau: O A470, ewch tuag at Gwm Rhondda ar hyd A4058. Ar ôl gadael Trehopcyn, mae'r parc ar y chwith.
Nodiadau diogelwch: Cymerwch ofal wrth adael y maes parcio yn y tywyllwch, ond mae'r prif safle'n ddiogel a does dim peryglon posibl.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn: Mae'r safle'n addas ar gyfer pobl anabl.
Edrychwch ar ein siart seren ar gyfer Parc Gwledig Barry Sidings