Mae Tafarn Llew Coch yn agos i'r pentref gwledig, Penderyn, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r safle ger Tafarn Llew Coch, ac mae'n cynnig golygfeydd ysblennydd o awyr y nos. Mae maes parcio'r dafarn yn darparu ardal agored fawr ar gyfer gwylio'r awyr.
Cyfarwyddiadau: Mae modd cyrraedd y safle o A4059. O gyfeiriad Aberhonddu, trowch i'r dde i Church Road. O gyfeiriad Hirwaun, trowch i'r chwith i Church Road.
Nodiadau diogelwch: Mae'r safle'n eithaf diogel, ond mae rhaid cymryd gofal wrth gerdded o amgylch y safle oherwydd tir anwastad a'r ffordd gerllaw.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn: Mae'r safle'n eithaf gwastad â cherrig mân ar lawr, ond mae modd i'r rhan fwyaf o bobl anabl symud o amgylch â gofal.