Mae arwyr, sêr byd chwaraeon a chyflawniadau diwydiannol a diwylliannol Rhondda Cynon Taf yn cael cydnabyddiaeth drwy'r cynllun Placiau Glas.
Mae'r placiau glas i'w gweld ar gyn-gartrefi neu leoliadau i roi cydnabyddiaeth i bobl a digwyddiadau o bwys yn ein hanes cyfoethog ac amrywiol.
O sêr ffilmiau Hollywood i'r pencampwyr chwedlonol a baratôdd y ffordd ar gyfer Syr Bradley Wiggins a thîm pêl-droed Cymru.
Mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, rydyn ni wedi gosod placiau i dynnu sylw at y bobl a'r digwyddiadau o bwys, ac rydyn ni hefyd wedi paratoi Llwybr Treftadaeth hynod ddiddorol ar gyfer ymwelwyr ei fwynhau.
Dyma rai o'r cyn-drigolion a'r digwyddiadau sy'n cael cydnabyddiaeth gan y cynllun Placiau Glas:
- Arthur Linton, sef “Pencampwr Beicio'r Byd” a enillodd y ras o Bordeaux i Baris ym 1896 – sef Le Tour de France erbyn hyn.
- Jimmy Murphy, sef y rheolwr pêl-droed a gymerodd yr awenau yng nghlwb pêl-droed Manchester United i hyfforddi a mireinio sgiliau'r “Busby Babes” yn dilyn trychineb awyr Munich ym 1958. Fe hefyd yw'r unig ddyn, hyd yma, i sicrhau lle i Gymru yng Nghwpan y Byd.
- Castell Nos, sef castell canoloesol a oedd yn sefyll yn y Maerdy.
- Don Houston, yr actor ym myd Hollywood.