Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

 

Tŷ Nantgarw, Tyla Gwyn, Nantgarw CF15 7TB

Crochendy Nantgarw yw un o'r safleoedd treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf yng Nghymru. Ar y safle yma yn ystod blynyddoedd cynnar y 19eg Ganrif aeth William Billingsley ati i greu porslen gorau'r byd.  Dau gant o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'r Crochendy yn amgueddfa a chanolfan gelf sydd unwaith eto'n creu eitemau prydferth gan ddefnyddio porslen Nantgarw.

Yn gynnar yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Crochendy Nantgarw yn gyfrifol am greu porslen gorau'r byd. Mae Crochendy Nantgarw ymhlith rhai o'r safleoedd treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf yng Nghymru ac mae ganddo amgueddfa sy'n dathlu hanes y Crochendy rhwng 1813 ac 1920. Mae'r safle hefyd yn cynnal gweithdai ceramig a gwydr poblogaidd ac yn 2018 dechreuodd greu porselen gan ddefnyddio rysáit gwreiddiol Nantgarw.

Oriau agor

Mercher–Sul 10.00am–4.00pm