Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Tai strimyn

 

Cartrefi sy'n herio disgyrchiant

Houses

Tai teras

"The houses which have acted to define the Rhondda defy both the law of gravity and the rules of perspective.

They whoosh in banded swathes of form and colour up and over the bumps of roads, driven to geological distraction by faults of nature surpassing even those possessed by the coalowners themselves".

… fel y dywedodd yr hanesydd o Donypandy, Dai Smith.

Cafodd y terasau niferus eu hadeiladu'n frysiog ar ochrau serth y cymoedd – ynghyd ag eglwysi, capeli a neuaddau'r gweithwyr – ar gyfer y miloedd o weithwyr a ddaeth i'r Cymoedd yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Mae miloedd o bobl yn dal i fyw yn y tai teras hynny sy'n glynu wrth fryniau Rhondda Cynon Taf. Mae pob un teras yn dilyn cromliniau'r dirwedd yn berffaith, ac mae'r tai wedi'u paentio yn lliwiau'r enfys.

Yma ac acw ymhlith y terasau mae eglwysi a neuaddau'r gweithwyr – dyma le daeth pobl Cymru o hyd i'w lleisiau, a'u rhannu â gweddill y byd.

Ewch ar daith yrru dros y bryniau ac o amgylch y terasau i gael cipolwg ar fywyd yn y Cymoedd.