Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Marchogion sy'n cysgu a thrysor cudd

 

Craig y Ddinas, yn ôl pob sôn, oedd y man olaf lle roedd y tylwyth teg yn byw.

14craigyddinas
Craig y Ddinas

Yn ôl pob sôn, mae trysor cudd wedi'i gladdu o dan y graig fawr ym mhen gogledd-orllewinol Rhondda Cynon Taf.

Mae'r trysor yn cael ei warchod gan farchogion y Brenin Arthur. Maen nhw wedi cysgu yn y siambr ers canrifoedd lawer, a byddan nhw'n dihuno os bydd rhywun yn ceisio dwyn y trysor.

Mae Craig y Ddinas yn lle poblogaidd ar gyfer y rhai sy'n crwydro Gwlad y Sgydau (Gwlad y Rhaeadrau), gan gynnwys prydferthwch Sgwd yr Eira.