Ar gopa gwyntog Mynydd Maendy (i'r de o dref Tonyrefail) mae siambr gladdu sydd, yn ôl pob sôn, yn fedd y pennaeth a ddaeth i gael ei alw'n y Brenin Arthur.
Cafodd symudiad yr Eingl-Sacsoniaid ar draws Prydain ei atal am genhedlaeth gan yr arweinydd dewr yma. Roedd ei fuddugoliaeth bennaf yng Nghaerfaddon yn y flwyddyn 513 Oed Crist.
Cafodd llawer o chwedlau eu cysylltu â'r arwr dienw yma, a dyma ddechrau traddodiad y Brenin Arthur – yn gyntaf yng Nghymru, ac yna yn llenyddiaeth bron pob gwlad yn Ewrop.