Clogfaen rhewlifol o Oes yr Iâ yw'r Maen Chwyf (‘The Rocking Stones’). Roedd yn ganolbwynt yr Orsedd ym 1814, a gafodd ei threfnu gan y saer maen, Edward Williams – sy'n cael ei alw'n Iolo Morganwg.
Cafodd cylch Meini'r Orsedd, sy'n cynnwys meini llai, ei godi ym 1849 gan Evan Davies – ei enw barddol oedd Myfyr Morganwg. Mae'r cylch wedi'i ddefnyddio yn aml ar gyfer achlysuron barddol ac mae'n ganolbwynt ar gyfer achlysuron cyhoeddus eraill.