Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cafe

 

Mae'r caffi teuluol yma'n cynnig croeso cynnes i chi. Bydd e ar agor rhwng penwythnos y Pasg a diwedd mis Medi. Yr oriau agor yw 10am tan 5pm (gan ddibynnu ar y tywydd).

Wedi'i leoli ar ochr y llyn, dyma'r lle perffaith i eistedd, ymlacio ac edrych ar y golygfeydd wrth gymryd llymaid o de a rhywbeth i'w fwyta. Mae man eistedd dan do ar gael hefyd os yw'r tywydd yn oer neu'n wlyb. Beth am ddod i mewn am baned braf o siocled poeth?

Oes chwant bwyd arnoch chi? Mae digon o ddewis - byrbrydau oer a thwym - neu efallai'r hoffech chi gael eich hoff hufen iâ Sidoli? Mae rhywbeth at ddant pawb - brechdan sglodion, brechdan gaws a winwns wedi'i thostio, powlenni o salad, a thatws pob. Nodwch fod yr holl gynnyrch yn dod o ffynonellau lleol.

Mae amrywiaeth o ddiodydd i'w cael hefyd - ysgytlaeth, cola, cappuccino, latte - dyma'r lle perffaith i fwynhau diodydd poeth ac oer. Bydd plant bach hefyd yn cael eu swyno gan gart melysion y caffi a'r teganau sydd ar gael. Beth am alw heibio i weld beth sydd ar gael?

Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-16
Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-14
Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-18

Am fwydo'r hwyaid a'r gwyddau? Beth am brynu'ch bag o hadau o'r caffi? Nid yn unig y byddwch chi'n darparu dewis bwyd iach i'r adar ond byddwch chi hefyd yn helpu i gefnogi grŵp Cyfeillion Parc Aberdâr.

 

Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld â'r parc, beth am alw heibio i weld beth mae'r caffi yn ei gynnig?