Byddwch yn barod am antur ym Mharc Gwledig Barry Sidings. Mae'n llawn llwybrau i'w crwydro, trac poblogaidd ar gyfer beicio mynydd, pwll hwyaid/pysgota a lle chwarae i blant.
Mae mannau agored eang sy'n berffaith ar gyfer picnic neu farbeciw, ac mae llwybrau cerdded a beicio yn golygu bod modd mynd i dref Pontypridd neu i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda.