Parc Bronwydd, Cae Mawr Rd, Y Porth
Mae Parc Bronwydd yn lle braf i bawb ym mhob tymor – yn llawn coed, blodau a bywyd gwyllt.
Mae llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a reidio sgwter, yn ogystal â chyrtiau tennis a lle chwarae i blant.
Mae hefyd lwybrau sy'n arwain at lethrau'r mynydd ac mae'n daith gerdded fer i ganol y dref, sydd â rhai o'r siopau annibynnol gorau yng Nghymru.
Roedd y parc yn rhodd i'r gymuned ym 1921 gan William Evans, sef cyfarwyddwr cychwynnol y cwmni Thomas and Evans Ltd. Roedd gan y cwmni teuluol yma ychydig o siopau bach cyn datblygu'r ‘Ffatri Bop’, sy'n sefyll yn y dref hyd heddiw. Dyma'r ffatri fyd-enwog gafodd ei phrynu gan y cwmni Corona, oedd yn gwerthu diodydd meddal ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.