Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Oriau agor, trafnidiaeth, parcio a rhagor o wybodaeth ddefnyddiol.

Oriau agor y Parc:

 

Mae amseroedd agor y parciau wedi'u cyfyngu i 8:30am - 6:45pm ar hyn o bryd. (5.45pm, 1 Tachwedd)

Wrth ddefnyddio'r parc, cadwch at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Cŵn

Mae croeso i chi ddod â'ch cŵn i'r parc. Gofynnwn yn garedig i chi eu cadw nhw ar dennyn. Byddwch yn effro i'n  Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sy'n egluro'r rheolau ynglŷn â chŵn yn ein parciau.

Mae llawer o finiau baw cŵn a biniau sbwriel cyffredinol ym mhob rhan o'r parc - cofiwch roi baw eich ci yn y bin!

Toiledau

Mae toiledau gyda chyfleusterau newid babanod a chyfleusterau i bobl anabl ger ardal Chwarae'r Lido.

Caffi

Caiff y caffi sydd ar y safle ei redeg gan gwmni preifat Just Perfect Catering, ac mae e ar agor bob penwythnos rhwng y Pasg a diwedd mis Medi. Mae'r caffi hefyd ar agor bob dydd dros wyliau'r haf.

Sut i gyrraedd

Car

Mae Parc Coffa Ynysangharad wedi'i leoli yng nghanol tref Pontypridd. Does dim maes parcio ar gyfer ceir na bysiau ar y safle. Y cod post ar gyfer dyfeisiau llywio â lloeren yw: CF37 4PE

Meysydd parcio agosaf:

Does dim cyfleusterau parcio ar y safle.

Bydd modd i deithiau bws barcio ar y safle os caiff hyn ei drefnu ymlaen llaw.

Bws

Mae safle bws y tu allan i'r parc, ac mae gwasanaethau rhif 60, 60A, 90, 101 a 78 gan gwmni Stagecoach yn rhedeg bob 15 munud o Orsaf Fysiau Pontypridd.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan  Stagecoach 

Ar y trên

Mae Gorsaf Drenau Pontypridd dafliad carreg o'r parc, ac mae  Trenau Arriva Cymru yn darparu gwasanaethau rheolaidd i'r dref.

Cysylltu â ni:

Llenwch ein ffurflen  gan nodi natur eich ymholiad, a byddwn ni'n cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Tudalennau Cysylltiedig