Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Chwaraeon yn y Parc

 
Mae nifer o gyfleusterau chwaraeon yn y parc, a chaiff achlysuron sy'n ymwneud â chwaraeon eu cynnal yno'n gyson.
Performance Swim lido
Mae modd i chi fynd i nofio am hwyl neu gysylltu â ni i gael gwybodaeth am y clybiau nofio sy'n defnyddio'r Lido i hyfforddi dros fisoedd cynhesaf y flwyddyn.
Pontypridd Park bowls
Caiff gemau eu cynnal drwy gydol y tymor, sy'n dechrau ym mis Ebrill ac yn gorffen ym mis Medi.
Foot gold 9 hole - Ponty Park
Golff-Droed
Mae'r gêm yma yn cyfuno golff â phêl-droed. Caiff hi ei chwarae ar gwrs 9 twll ac mae modd i unrhyw un ei mwynhau.
Mae'r cae criced yn gartref i Glwb Criced Parc Ynysangharad a Chlwb Criced Pontypridd.
Mae'r caeau pêl-droed yn gartref i ddau dîm sy'n rhan o Gynghrair Cymru.
Tennis - ponty Park

Mae modd dewis o tri cwrt tenis, ac mae pob un ohonyn nhw ar agor drwy gydol y flwyddyn!

park_run

Caiff yr achlysur Parkrun  ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad bob bore Sadwrn am 9am. Mae hi'n ras 5k - allwch chi guro'r cloc?

Caiff yr achlysur Junior Parkrun  ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad bob bore Sul am 9am. Mae hon yn ras 2k, a'r nod yw mwynhau.  Dewch i ymuno â ni - ni waeth beth fo'ch gallu!

Taff Trail Signs

Mwynhewch lwybr Taith Taf, sy'n ymestyn am 55 milltir o brifddinas gyffrous Cymru, Caerdydd, yr holl ffordd i Aberhonddu. Mae'r llwybr yn mynd drwy Barc Coffa Ynysangharad.  Boed hyn yn fan cychwyn i chi, neu'n rhywle i gael hoe fach, dewch i fwynhau harddwch syfrdanol y parc.