Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybr Llafar Aberdâr

 
 
Aberdare-Heritage-walk-picAberdare-Audio-Trails-Map

Ar Lwybr Llafar Aberdâr mae aelodau Cymdeithas Hanes Cwm Cynon yn cynnig cipolwg unigryw ar hanes y dref. Cewch chi'ch tywys o gwmpas tirnodau pwysig y dref, fel Neuadd y Farchnad, a oedd yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf.

Bydd aelodau'r Gymdeithas hefyd yn adrodd hanesion rhai cymeriadau anhygoel, gan gynnwys William Haggar, arloeswr ym maes sinema a ddangosodd ei ffilmiau yn y dref yn gyntaf, a James Keir Hardie, arweinydd cyntaf y Blaid Lafur. Mae Taflen Llwybr Treftadaeth Aberdâr yn gymar gwych i'r llwybr yma ac yn cynnig gwybodaeth fanwl ar rannau allweddol y llwybr.

Bydd y daith 1.2km yn cychwyn ac yn gorffen ym Maes Parcio Duke Street ac yn para tua 1 awr. Yn ogystal â'r daith gerdded, beth am ymweld ag Amgueddfa Cwm Cynon (5 munud o leoliad 9) hefyd? Yno cewch chi dwrio ymhellach i hanes y dref. Mae caffi ar y safle hefyd, Marty's, sy'n cynnig cacennau blasus a byrbrydau ysgafn.

Nodwch fod y llwybr yn wastad ar y cyfan, er mae'n bosibl y bydd rhywfaint o dir anwastad.

  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 0.75 milltir / 1.2 km
  • Graddfa: Hawdd
  • Tirwedd: Canol tref
  • Hyd y daith: Tua awr i gwblhau'r daith
  • Lawrlwytho: PDF map | sain