Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybr Llafar Hirwaun

 
 
Hirwaun-Audio-Trail-Box

Yng nghwmni ysbryd William Bryant, cyn-weithiwr yng Ngwaith Haearn Hirwaun, ar y llwybr llafar yma cewch chi gipolwg difyr i chi ar ei fywyd a hanes y dref haearn gynt, a gafodd ei sefydlu yn y 18fed ganrif.

Bydd William adrodd yr hanes wrth iddo eich tywys chi o gwmpas safleoedd pwysig y dref ddiwydiannol yma, gan gynnwys Gwaith Haearn Hirwaun, Craig y Llyn a'r Gwaith Brics.

Bydd y daith 3.2km o hyd yn cychwyn ac yn gorffen yn Llyfrgell Hirwaun ac yn para tuag awr a hanner. Ar ddiwedd y daith cewch chi wobrwyo'ch hun gyda physgod a sglodion o Penaluna's sy wedi'i lleoli yn y pentref. Rhaid i bawb sy'n ymweld â'r ardal fynd yno - mae'r siop wedi ennill gwobrau am ei bwyd!

Nodwch mai taith gerdded cefn gwlad yw hon, gyda thir anwastad, gan gynnwys rhai esgyniadau serth a disgyniadau. Dydy'r daith yma ddim yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn, neu bobl â phroblemau symudedd.

Allwedd
Addasrwydd: cerddwyr, pellter byr.
Graddfa: Hawdd/Cymedrol
Pellter:
Tua 2 filltir / 3.2 km
Dechrau: Llyfrgell Hirwaun
Hyd y daith: Tua 1.5 awr i gwblhau'r daith
Tirwedd: Amrywiol
Lawrlwytho: PDF map | sain