Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybr Llafar Pontypridd

 
 
Pontypridd-audio-and-heritage-trail

Awydd darganfod hanes Pontypridd, tref a anwyd yn y chwyldro diwydiannol? Mae gan Bontypridd lawer i'w gynnig o Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, marchnad Pontypridd sy wedi cael ei hadnewyddu, a 'Hen Bont' William Edwards, a oedd ar un adeg y bont rychwant sengl hiraf yn y byd. 

Bydd y llwybr llafar yn eich tywys heibio'r rhain ac atyniadau pwysig eraill, wrth adrodd ein hanes diddorol. Wyddech chi fod Pontypridd yn gartref i Anthem Genedlaethol Cymru, a gafodd ei chyfansoddi gan y brodyr James tra roedden nhw'n byw yn y dref? Defnyddiwch daflen Llwybr Treftadaeth Pontypridd i gael rhagor o wybodaeth am hanes y dref.

Mae'r daith 3.2km o hyd yn cychwyn yn Amgueddfa Pontypridd ac yn gorffen ym Marchnad Pontypridd, ac yn para tua 1 awr. Beth am fynd i nofio yn y Lido, pori yn Amgueddfa Pontypridd a chael pryd blasus yn un o'r bwytai blasus er mwyn treulio prynhawn cyfan yn y dref?

Nodwch fod y llwybr yn wastad ar y cyfan, ond fe ddewch chi ar draws rhywfaint o dir anwastad yn y Parc.

Llwybr Llafar Pontypridd

  • Allwedd
  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 2 filltir / 3.2 km
  • Graddfa: Hawdd
  • Tirwedd: Canol tref
  • Hyd y daith: Tua awr i gwblhau'r daith