Yn rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, mae'r llwybr di-draffig yma'n rhedeg ochr yn ochr â ffordd osgoi Pentre'r Eglwys ac mae'n addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Mae'r llwybr yn wych ar gyfer taith gerdded neu feicio hamddenol ac mae'n cynnig golygfeydd cefn gwlad hardd a deniadol sy'n cynnwys coetiroedd hynafol, ffermydd a blodau gwylltion. Ar hyd y llwybr fe welwch chi nifer o fyrddau picnic, meinciau a darnau diddorol o waith celf a byrddau gwybodaeth felly mae modd i chi gymryd seibiant fan hyn a fan draw i gael byrbryd sydyn neu ddysgu rhagor am yr ardal!
Mae modd cael mynediad at y llwybr 6km o wahanol leoliadau (edrychwch ar y daflen am fanylion), ond mae'n dechrau yn Cheriton Grove yn Nhon-teg ac yn gorffen ar Heol Llantrisant yn Cross Inn. Mae modd cyfuno taith ar y llwybr â thaith ar Lwybr Cymuned Trefforest sy'n mynd â chi i lwybr Taith Taf (Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol).
Dydy'r llwybr ddim yn addas ar gyfer bygis dwbl. Gatiau RADAR gydag allweddau ar gyfer mynediad.