Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Taith Gerdded Cefnffordd Morgannwg

 
 
Glamorgan-Ridgeway-Box

Gan fynd ar hyd ochr ddeheuol Maes Glo De Cymru, mae'r llwybr pellter hir yma â golygfeydd hyfryd yn mynd â chi trwy 5 bwrdeistref sirol, o Bort Talbot i Gaerffili - gydag ymweliad â RhCT yn y canol. 

Byddwch chi'n profi golygfeydd panoramig o'r cymoedd cul, garw a oedd ar un adeg yn ganolbwynt i'r diwydiant glo. Yn ystod y llwybr, byddwch chi hefyd yn gweld golygfeydd o Fannau Brycheiniog i'r gogledd a Môr Hafren i'r de, a chewch chi gipolwg ar Ddyfnaint a Gwlad yr Haf dros y tonnau ar ddiwrnod clir.

Gyda'i banoramâu dramatig, mae'r llwybr trawiadol 43km o hyd yn cychwyn ym Mharc Gwledig Margam ym Mhort Talbot, yn parhau trwy Ben-y-bont ar Ogwr ac yn eich tywys chi trwy'n tref hanesyddol Llantrisant, cyn mynd â chi i'r Garth yng Nghaerdydd ac yna i bentref Nantgarw cyn gorffen yng Nghastell Caerffili.  

Mae'r daith gerdded yn croesi tir cymysg gan gynnwys llwybrau cefn gwlad gyda rhai camfeydd, llwybrau mynyddog sy'n gofyn ymdrech (gyda chynnydd mewn uchder o 5818 troedfedd (1774m) ar y cyfan a mannau lle mae rhaid croesi priffyrdd). Mae'r daith gerdded yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol - rydyn ni'n argymell i chi wisgo esgidiau cerdded cryf, dillad i'ch diogelu rhag tywydd garw a'ch bod chi'n defnyddio map 1: 25000 (taflenni 151, 165 ac 166 OS Explorer).

Allwedd:-

Addasrwydd - Cerddwyr
Pellter - 27 milltir (43km)
Graddfa - Cymderol/Anodd 
Tirwedd - Yn amrywio / tir cymysg.
Llawrlwytho: - Taith Gerdded Cefnffordd Morgannwg