Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cylchol Pontypridd

 
 
Pontypridd Common - Flowers - View - Cenotaph - Rocking Stone - Tree-3
Pontypridd Common - Flowers - View - Cenotaph - Rocking Stone - Tree-9
Rocking Stones - Trees - Plants-6

O'r llwybr hwn dros y bryniau cewch olygfeydd hyfryd o'r dref, yn ogystal â cherdded drwy goedydd hynafol, tir comin agored, rhostir, tir ffermio a ffridd. Mae'n esgyn wedyn i fannau uchel sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws y cymoedd tua'r môr a thua Bannau Brycheiniog. Ar lwybrau troed cefn gwlad a lonydd gwledig tawel.

Mae cyfres o arwyddion ar hyd y llwybr. Gellwch ei ddilyn yn y ddau gyfeiriad, neu gychwyn o unrhyw fan ar hyd y llwybr. Tua 12 milltir (18km) yw hyd y llwybr cyfan. Gellwch dreulio diwrnod cyfan yn cerdded ar hyd-ddo. Mae'n well i chi wisgo esgidiau cerdded, neu esgidiau cryf o leiaf.

Mae modd cerdded teithiau byrrach ar hyd rhannau o'r Llwybr Cerdded Cylchol. Gellwch gychwyn o Drefforest, Trehafod neu ganol y dref.

Allwedd

  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 12 milltir / 18 km
  • Graddfa: Cymedrol/Anodd (pellter hir)
  • Tirwedd: Amrywiol
  • Hyd y daith: Tua 8 awr i gwblhau'r daith (mae modd rhannu'r daith yn bedair)
  • Camfeydd/Sticlau: Oes

Lawrlwytho:
Taith Gerdded Gylchol Pontypridd (dogfen maint A3)

Llwybrau cysylltiedig