Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Parc Gwledig Cwm Dâr – Llwybr Penrhiwllech

 
 
Dare-Valley-Trails-Box

Mae Llwybr Penrhiwllech yn mynd â chi ar lwybr siâp pedol o Gwm Dâr a rhaid dringo i'r ucheldir o amgylch Tarren y Bwllfa.

Mae'n cynnig golygfeydd syfrdanol o Fannau Brycheiniog a'r hen dirwedd ddiwydiannol, ac fe welwch chi ffurf anhygoel 8,000 mlwydd oed un o gymoedd rhewlifol mwyaf deheuol Prydain, Tarren y Bwllfa.

Mae'r daith 6km o hyd yn cychwyn ac yn gorffen yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae arwyddion coch ar golofnau â band coch yn dangos i chi'r ffordd i fynd. Ar ôl y daith, cewch chi fwynhau paned a chacen yn y caffi ar y safle, gêm o 'laser tag' yn Combat Zone Live neu farchogaeth yng nghanolfan  marchogaeth Greenmeadow.

Mae'n bosibl bydd y llwybr yn wlyb ac yn anwastad mewn mannau, felly, bydd eisiau gwisgo esgidiau cerdded addas. Bydd gofyn i chi ddringo dros gamfeydd a gwneud eich ffordd ar hyd cymysgedd o lwybrau cefn gwlad, bryniau a thirwedd garw. Nodwch fod yna glogwyni heb eu ffensio a thyllau dwfn ger y llwybr, ac felly dylech chi fod yn ofalus (gan gynnwys cadw cŵn ar dennyn) ac aros ar y llwybr.

Allwedd

  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 4 milltir / 6 km
  • Graddfa: Cymedrol
  • Tirwedd: Amrywiol
  • Hyd y daith: Tua 2 awr i gwblhau'r daith
  • Camfeydd/Sticlau: Oes

Lawrlwytho: Parc Gwledig Cwm Dâr – Teithiau cerdded