Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Troedio Tiroedd Comin Llantrisant a'r Graig

 
 

Suitability - Walkers - Short Distance

Llantrisant-&-Graig-Common-Box

Wedi'i leoli yn Llantrisant, un o drefi hynaf De Cymru, mae'r llwybr yn archwilio bioamrywiaeth Comins hanesyddol Llantrisant a'r Graig. 

Gan gychwyn o Dref Llantrisant, mae'r daith yn croesi cymysgedd o gaeau corsiog a sych sy'n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt a gwartheg a cheffylau sy'n pori yno bob dydd. Ar ddiwrnod clir, o Gomin y Graig bydd modd i chi weld golygfeydd ar draws y Fro a dros Fôr Hafren i Exmoor. 

Does dim arwyddion ar daith gerdded gylchol 5.7km yma, felly bydd rhaid defnyddio map y llwybr. Ar y map, fe ddewch o hyd i wybodaeth am y planhigion a'r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd i'w gweld ar y comin. 

Mae'r daith gerdded yn mynd ar hyd llwybrau troed cefn gwlad ar y cyfan gyda rhai bryniau serth a thir gwlyb mewn mannau - rydyn ni'n argymell i chi wisgo esgidiau addas felly. Nodwch fod dim arwyddion ar y llwybr i ddangos y ffordd i chi.

Allwedd

  • Addasrwydd - Cerddwyr
  • Pellter - 3.5 miles / 5.7km
  • Graddfa - Hawdd-Cymedrol 
  • Tirwedd  - amrywiol - Cefn Gwlad
  • Hyd y daith - 3 awr

Lawrlwytho:  - Troedio Tiroedd Comin Llantrisant a'r Graig 

Llwybrau cysylltiedig