Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Uchafbwyntiau

 

Ewch am dro hamddenol yng nghwmni'ch teulu...

Dare-Valley-Country-Park-Walking-Trail

Mae hon yn daith berffaith ar gyfer prynhawn hamddenol, gyda golygfeydd syfrdanol o'r llyn a digonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys bronwennod y dŵr ar y nant, gwyachod bach, cotieir ac ieir bach y dŵr.

Ewch am dro yn llawn hanes diddorol, gan ddilyn llais haneswyr lleol a chyn-löwr...

RHP-Sunrise

Mae'r llwybr llafar yn cynnwys lleisiau haneswyr lleol a chyn-lowyr sy'n eich tywys ar daith ddiddorol o gwmpas pyllau glo enwog Cwm Rhondda. 

Ewch am dro i weld golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd, coedwigoedd a rhaeadr...

Flag

Tracy Purnell, Hyrwyddwr #GetOutside yr Arolwg Ordnans a'i dau gi (Asher yr Husky a Marley y Malamute), sy wedi llunio'r daith gerdded gylchol hardd yma ym Mhen-pych.

Dyma her a hanner sy'n cynnwys llethrau serth, coedwig hynafol a golygfeydd godidog...  

Sunrise-pontypridd-Rocking-Stones

O'r llwybr hwn dros y bryniau cewch olygfeydd hyfryd o'r dref, yn ogystal â cherdded drwy goedydd hynafol, tir comin agored, rhostir, tir ffermio a ffridd. Mae'n esgyn wedyn i fannau uchel sy'n cynnig golygfeydd godidog ar draws y cymoedd tua'r môr a thua Bannau Brycheiniog. Ar lwybrau troed cefn gwlad a lonydd gwledig tawel.