Llwybrau cerdded yn Rhondda Cynon Taf
O ganlyniad i bandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, efallai bod rhai cyfleusterau ar gau, neu efallai eu bod nhw ddim y gweithredu yn ôl yr arfer oherwydd rhesymau diogelwch. Cofiwch wirio ymlaen llaw.
Bydd ein golygfeydd yn eich syfrdanu - mewn ffordd dda, wrth gwrs!
Mae ein tirwedd wedi'i ffurfio dros filiynau o flynyddoedd gan natur a diwydiant. Wedi'u hailfeddiannu gan fyd natur, mae ein mannau awyr agored yn ANHYGOEL - ac maen nhw'n cynnig rhywbeth at ddant pawb...
Dilynwch ôl troed Nick Hallisey (o gylchgrawn Country Walking) a chychwyn ar ein Taith i Sgwd Yr Eira gan fynd ar hyd llwybr y dilynodd "bugeiliaid gwartheg, glowyr silica, a gweision powdr gwn - a thylwyth teg" ac ymweld â rhaeadr ysblennydd hefyd. Ewch â'ch cŵn ar antur fel ein Hyrwyddwr Ymgyrch #GetOutside yr Arolwg Ordnans, Tracy Purnell, seiclwch 55 milltir ar hyd llwybr Taith Taf, neu mwynhewch ym Mharc Gwledig Barry Sidings ar droed neu ar gefn beic.
Cynlluniwch eich antur awyr agored nesaf yma...
Am daith gerdded, beth am ymweld â'n parciau gwledig hardd?...