Mae'r llwybr yma'n dilyn hen Linell Chwarel Penderyn a oedd yn cludo mwynau o Foel Penderyn i Waith Haearn Hirwaun.
Mae'r llwybr yn llonydd erbyn hyn, ond ar un adeg roedd e'n fwrlwm o weithgarwch gyda thunelli o galchfaen a chraig silica yn cael eu cludo trwy gefn gwlad Penderyn a Hirwaun. Defnyddiwch Lwybr Llafar Hirwaun (lleoliad 4 ar y map) hefyd i wrando ar straeon 'ysbryd' William Bryant, cyn-weithiwr Gwaith Haearn Hirwaun.
Mae'r daith 3.2km o hyd yn cychwyn o bentref Penderyn, sy'n gartref i Ddistyllfa Wisgi Penderyn (rhaid ymweld â'r lle yma!) ac mae'n dilyn hen linell y chwarel sy'n rhedeg ochr yn ochr ag Afon Cynon i Hirwaun cyn gorffen yn y Gwaith Haearn.
Nodwch fod y llwybr yn wastad, ond mae'n bosibl y bydd rhywfaint o dir anwastad, gyda graean mewn mannau.