Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybrau Cerdded

 

Darganfod llwybrau cerdded ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf

Crwydro Cwm Clydach

Cyfres o bedair taith gerdded yn crwydro cefn gwlad ardal Cwm Clydach.

Llwybr Treftadaeth Llantrisant

Wedi'i leoli yn nhref hyfryd Llantrisant a oedd yn gadarnle pwysig yn yr Oesoedd Canol, bydd y llwybr llafar yma yn rhoi cipolwg difyr i chi ar hanes Llantrisant.

Llwybr Treftadaeth Pontypridd

Awydd darganfod hanes Pontypridd, tref a anwyd yn y chwyldro diwydiannol? Mae gan Bontypridd lawer i'w gynnig o Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty...

Llwybrau Cerdded Penderyn a Hirwaun

Mae'r llwybr yma'n dilyn hen Linell Chwarel Penderyn a oedd yn cludo mwynau o Foel Penderyn i Waith Haearn Hirwaun.

Parc Gwledig Cwm Dâr – Llwybr Cae Mawr

Mae Llwybr Cae Mawr yn mynd â chi oddi ar lwybrau arferol Parc Gwledig Cwm Dâr, ar hyd llwybrau cefn gwlad trwy ardaloedd coediog ac ar hyd ochr y cwm a safle hen lofa.

Parc Gwledig Cwm Dâr – Llwybr Penrhiwllech

Mae Llwybr Penrhiwllech yn dilyn llwybr siâp bedol allan o'r cwm, gan ddringo i'r llwyfandir uchel a thros dirwedd garw.

Parc Gwledig Cwm Dâr – Llwybr y Bwllfa

Mae Llwybr Cerdded y Bwllfa yn daith gerdded gylchol o gwmpas gwaelod y cwm ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ar dir sy wedi'i adfer ar ôl dros ganrif o gloddio am lo.

Taith Comin Pontypridd

Gan roi cipolwg diddorol i chi ar hanes Comin Pontypridd, bydd y Daith Gerdded Treftadaeth yma yn eich tywys o gwmpas lleoliadau pwysig, gan goffáu pobl, lleoedd ac achlysuron nodedig sy'n rhan o hanes yr ardal.

Troedio Tiroedd Comin Llantrisant a'r Graig

Mae Llantrisant yn un o drefi hynaf y De. Mae hanes, tirwedd a bioamrywiaeth y dref i gyd yn dibynnu ar y naill a'r llall.