Skip to main content

Hanes Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda - Gan Cardiff Mummy Says

 

Posted: 14/09/2017

Hanes Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda - Gan Cardiff Mummy Says

Wrth i'm plant redeg o gwmpas y maes chwarae ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Amgueddfa Glofeydd Cymru, roedd fframwaith metel enfawr hen Lofa Lewis Merthyr yn denu fy llygaid. Roedd hi'n swrrealaidd gwylio'r tri ohonyn nhw'n chwarae yng nghysgodion safle lle, 200 o flynyddoedd yn ôl, byddai plant, yr un oedran â nhw, wedi gweithio dan ddaear chwe diwrnod yr wythnos, 12 awr y diwrnod.

Rhondda-Heritage-Park-Stack

Rhondda-Heritage-Park-Energy-Zone

Dywedodd Peter ein tywysydd, a weithiodd o dan ddaear mewn nifer o lofeydd yng Nghwm Rhondda am dros 25 o flynyddoedd, mai pedair blwydd oed oedd oedran y plant ieuengaf wedi'u cofnodi. Pedair! Oedrannau fy mhlant yw 7, 5 a 3 - dwi methu â'u dychmygu nhw gyda llwch du drostyn nhw ac yn gweithio o dan ddaear am y rhan fwyaf o oriau golau dydd, gwthio tramiau o lo, agor drysau awyrellu a thasgau corfforol eraill. Roedd rhaid aros i ddeddf gael ei phasio yn 1842 a waharddodd blant o dan 10 oed a menywod rhag gweithio yn y glofeydd, yna cynyddodd yr oedran i 13 oed i fechgyn yn 1900. Wedi'i hagor yn 1790, Glofa Lewis Merthyr oedd un o'r cynhyrchwyr mwyaf o lo yn y byd, gan gyflogi miloedd o ddynion. Derbyniodd y dynion lwfans ychwanegol am ddod â'u gwragedd a'u plant i'r gwaith... felly does dim syndod faint o blant a menywod oedd yn gweithio dan ddaear yn ystod y blynyddoedd yma wrth i deuluoedd gael deupen llinyn ynghyd.

Mae'n anodd i ni gredu hyn, ond fel y dywedodd Peter, roedd rhaid gwneud popeth i oroesi ac ennill arian ar gyfer y teulu. Dechreuodd e weithio yn y pyllau glo yn 1969, pan oedd e'n 15 oed. Roedd e'n ymwybodol o'r risgiau o fywyd dan ddaear... ond doedd dim llawer o gyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal ac roedd y cyflog ddwywaith yn fwy na swyddi a phrentisiaethau eraill. Roedd yn waith caled, meddai fe gydag acen Cymoedd cryf, ond roedd teimlad o gyfeillgarwch rhwng y glowyr.

Rhondda-Heritage-Park-Engine-Room

Pan ddechreuodd y diwydiant ddirywio, gyda nifer o byllau glo yn cau yng Nghwm Rhondda, doedd Peter erioed wedi dychmygu byddai'n ôl mewn pwll glo eto. Fe yw un o dywyswyr Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yr amgueddfa glofeydd ar safle'r hen lofa Lewis wedi'i rheoli gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, dim ond 25 munud o Gaerdydd yn y car. Mae e'n tywys pobl o gwmpas yr amgueddfa yn adrodd hanes y pwll glo a'i brofiadau dan ddaear.

Rhondda-Heritage-Park-Watching-the-Screens

Rhondda-Heritage-Park-Lamp-Room

Mae'r daith yn para tua awr a chwarter, er i ni dreulio awr arall  yn edrych o gwmpas y safle. Un o'n huchafbwyntiau oedd gweld yr injan weindio enfawr ar waith. Defnyddiodd yr injan stêm i bweru siafft y pwll glo a gostwng glowyr 30 troedfedd yr eiliad dan ddaear, a dod â'r glo i'r wyneb 60 troedfedd yr eiliad. Byddai gostwng glowyr 434 metr dan ddaear yn cymryd 47 eiliad yn unig. Mae'r siafft yn gaets sy ddim yn edrych yn ddiogel o gwbl. Weithiau byddai’r pŵer yn methu ac os nad oedd nifer o olwyr yn y caets, bydden nhw'n cael eu siglo. Y dyddiau yma, mae modd profi'r teimlad o gael eich gollwng i mewn i bwll glo gyda pheiriant efelychu.

Aethon ni i'r ystafell lampau hefyd lle dewison ni ein helmedi cyn mynd o dan ddaear. Mae ardal y pwll glo yn atgynhyrchiad, wedi'i hadeiladu'n fanwl gan y glowyr eu hunain. Dydy ymwelwyr ddim yn mynd lawr i'r pwll glo gwreiddiol gan ei fod wedi cau - ond mae'r ardal yma yn dod â'r profiad dan ddaear yn fyw. Gwelon ni'r drysau awyrellu byddai plant ifainc wedi'u hagor a'u cau yn y pyllau glo; dysgon ni am y ffrwydryddion a gafodd eu defnyddio i dwnelu trwy'r ddaear a'r cynheiliaid pren wedi'u hadeiladu uwchben. Gwelon ni'r ffas lo a'r tramiau wedi'u defnyddio i ddod â glo allan o'r pyllau, a dywedodd Peter wrthon ni am hanesynnau bywyd dan ddaear.

Rhondda-Heritage-Park-In-The-Mine

Mae'r daith yn defnyddio taflunydd fideo wrth i löwr ddweud rhagor am fywyd dan ddaear, gan gyfrannu at straeon Peter. Rydyn ni'n deall i siec gyntaf gwerth miliwn o bunnoedd, wedi'i llofnodi yn y Gyfnewidfa Lo Caerdydd, dalu am lo wedi'i fwyngloddio o Lofa Lewis Merthyr. Glo o Gwm Rhondda a bwerodd y Titanic hefyd. Rydyn ni'n cael gweld modelau o Ardalydd Bute a'i bensaer William Burges; gwnaeth Bute ei arian o'r pwll glo gyda threth ar bob tunnell wedi'i hallforio o'r dociau roedd e'n berchen arnyn nhw yng Nghaerdydd.

O ganlyniad i natur hanesyddol y safle, dydy'r daith ddim yn addas i bramiau yn anffodus, ond mae modd eu gadael nhw yn yr ardal i bramiau wrth y dderbynfa lle rydych chi'n dechrau a gorffen y daith. Mae gweddill y safle, gan gynnwys y caffi, amgueddfa a maes chwarae i blant, yn addas i bramiau a chadeiriau olwyn.

Ar ôl y daith, aethon ni am bryd o fwyd yng Nghaffi Bracchi. Mae’n cynnig detholiad o fyrbrydau poeth ac oer a phrydau bychain Cymreig ac Eidalaidd, wrth ddathlu effaith y gymuned Eidalaidd ar Rondda Cynon Taf, ers iddyn nhw adael eu tai yn Bardi ac ardaloedd cyfagos ar ddechrau'r 20fed Ganrif. Mwynheuodd fy mhlant y bocsys picnic i blant - brechdanau, ffrwythau, iogwrt a diod, a dewisais i ffa pob gyda chaws.

Rhondda-Heritage-Park-Cafe

Mae gan y caffi awyrgylch hanesyddol gyda'i ddodrefn pren tywyll a choch. Mae dwy siop wedi'u hefelychu, gyferbyn â'r caffi, sy'n gwerthu nwyddau mwyngloddi. Roedd Little Miss E, fy merch saith oed, wrth ei bodd pan adawodd aelod o staff iddi chwarae ar y til metelig mawr.

Rhondda-Heritage-Park-Shop