Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Dwli yn y Dail yn ein Parciau yr Hydref yma

 

Posted: 22/10/2019

Dwli yn y Dail yn ein Parciau yr Hydref yma

Untitled design (1)

Beth sy'n well ar ddiwrnod o hydref na mynd am dro drwy'r parc, yng nghanol lliwiau hardd y tymor gyda'r dail yn crensian dan draed?

 

Dyma ychydig o syniadau i chi ar gyfer hanner tymor – beth am ymweld â'r parciau yma?

 bronwydd

Parc Bronwydd, Y Porth

Cafodd y trysor cudd yma ei adael i drigolion Y Porth i'w fwynhau yn ei holl ysblennydd! Yma mae cyrtiau tenis a maes chwarae i blant, yn ogystal â llwybrau coediog o bob lliw a llun. Mae parcio am ddim ar y safle.

darren

 

Parc y Darren, Glynrhedynog

Ewch am dro o amgylch y llyn, gan ddysgu am hanes chwedl Arglwyddes y Llyn a llosgi rhywfaint o galorïau yn y maes chwarae.

dvcp

Parc Gwledig Cwm Dâr

Mae ôl diwydiant, amser a natur ei hun i'w weld ar dirlun y man agored anhygoel yma. Crwydrwch erwau o lwybrau cerdded, sydd â rhywbeth at bob gallu. Mae maes chwarae antur a chaffi ar y safle hefyd, ynghyd â chyfleusterau gwersylla os ydych chi awydd cysgu o dan y sêr!

 barry sidings

Parc Gwledig Barry Sidings, Trehafod

Boed ar ddwy droed neu ddwy olwyn, mae Parc Gwledig Barry Sidings yn lle perffaith i chi ymgolli ynddo. Mae'r 'Bike Doctor' enwog wedi creu trac pwmp bach yno, yn ogystal â chaffi anhygoel a chyfleusterau llogi beiciau i bawb. Beth am ymlacio wrth y llynnoedd, chwarae yn y maes antur neu ddod o hyd i'r llwybrau cerdded a beicio sy'n mynd â chi ymhell i'r mynyddoedd cyfagos.

ponty

Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd

Dilynwch gwrs yr afon i weld y bywyd gwyllt, ymlwybro heibio'r ardd isel neu gymryd seibiant i fyfyrio wrth y Gofeb Ryfel – dyma ddihangfa wych o brysurdeb canol y dref.

Efallai y bydd Lido Ponty ar gau am y tymor, ond mae maes chwarae antur Lido Play a'r caffi ar agor o hyd. Cadwch lygad ar y tudalennau yma i gael y newyddion diweddaraf am sesiwn nofio Gŵyl San Steffan.

aberdare

Parc Aberdâr, Aberdâr

Dros 150 mlwydd oed ac yma o hyd, mae amrywiaeth anhygoel o natur i'w mwynhau yn y parc godidog yma. Mae ei lliwiau hydrefol yn wledd i'r llygaid! Cofiwch ymweld â Cherrig yr Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf erioed, yma yn y parc. Peidiwch â cholli'r cyfle i fwynhau'r llyn hwylio a'r cychod pedlo, gan gofio prynu bwyd adar o'r caffi i fwydo'r hwyaid, yr elyrch a'r gwyddau ar y llyn. Mae maes chwarae antur i'w fwynhau hefyd, yn ogystal â chyrtiau tenis os ydych chi awydd gêm!