Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Mae cartref pob un o'r uchod yn RCT

 

Posted: 30/11/2021

Mae cartref pob un o'r uchod yn RCT

Mae ardal De Cymru yn drysor cudd rhwng prifddinas Caerdydd a'r Bannau Brycheiniog. 

Bydd llawer o bobl wedi clywed am byllau glo Cwm Rhondda, Syr Tom Jones a gafodd ei eni ym Mhontypridd a'r Anthem Genedlaethol wych sydd i'w chlywed mewn gemau chwaraeon. 

Mae cartref pob un o'r uchod yn Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n falch iawn o hynny. 

A wyddoch chi ein bod ni'n gartref i lwybrau cerdded, profiadau adrenalin, siopau, sbas moethus a nifer o fwytai sydd wedi ennill gwobrau? 

Dewch draw i Gymru (does dim rhaid talu toll ar y bont erbyn hyn!) a dewch i'r Cymoedd lle mae modd dringo mynyddoedd, mynd i sbas gerddi sy'n addas ar gyfer Instagram a mynd ar y wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd. 

Oes diddordeb gyda chi? Darllenwch am y pethau isod fyddwch chi byth yn credu eu bod nhw yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru. 

Sicrhewch eich bod chi'n darllen ein blogiau ar lefydd i aros, bwyta a llwybrau cerdded! 

1. Dim ond dau fynydd pen bwrdd sydd yn Ewrop, ac rydyn ni'n gartref i un ohonyn nhw. Mae Pen-pych yn anhygoel. 

penpychthingsyouwontbelieveNOV

 

2. Rydyn ni'n gartref i unig atyniad Zip World yn Ne Cymru a Chanolbarth Cymru. Agorwyd Zip World Tower eleni sy'n gartref i Phoenix, y wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd.

zipworldwontbelieveNOV

 

3. Ai dyma Fôr y Canoldir? Nage! Dyma Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Cynhaliwyd gwaith adfer gwych ar y Lido gwreiddiol sydd wedi bod ym Mharc Coffa Ynysangharad ers 1927. Mae tri phwll twym yn yr awyr agored, teras, man bwyta awyr agored a llawer yn rhagor. (Ewch i'r wefan am ragor o wybodaeth am oriau agor).

LidothingsyouwontbelieveNOV

 

4. Côr y Cewri yn y Cymoedd? Mae'r Maen Chwyf ar y mynydd uwchben Pontypridd ac roedd yn fan ymgynnull ar gyfer beirdd a phobl ecsentrig. Mae modd cyrraedd y meini yn rhan o Lwybr Cylchol Pontypridd. Dyma daith gerdded hir a heriol, ond mae modd ei chwblhau fesul rhan.

PontythingsyouwontbelieveNOV

 

5. Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i un o'r strydoedd mawr annibynnol gorau yn y DU! Enillodd Treorci wobr fawreddog yn 2019, diolch i'w chynnig dengar, sy'n cynnwys siopau hufen iâ, siopau anrhegion annibynnol, siopau losin, siop cwrw crefft annibynnol.

treorchythingsyouwontbelieveNOV

 

6.Bali? Maldives? Mae'r Sba Gardd hyfryd yn Neuadd Lanelay yn Nhonysguboriau yn cynnig triniaethau moethus, pwll nofio i ymlacio ynddo a chyfle i ddianc rhag bywyd prysur bob dydd. Mae modd aros yn y gwesty, sydd ag ystafelloedd gwely ffasiynol â dyluniad unigryw.

LanelaythingsyouwontbelieveNOV

 

7. Bwytwch yn eich pod prefiat eich hun ar dir plasty hanesyddol. Mae Gwesty a Chlwb Iechyd Miskin Manor yn hyfryd – gyda phodiau bwyta i'w gweld ymhlith y blodau a nentydd.

miskinyouwontbelieveNOV

 

 8.Ydych chi'n hoffi byd natur? Rydych chi yn y lle iawn! Dyma Gwm-parc yng Nghwm Rhondda..

wildswimyouwontbelieveNOV

 

9. Mwynhewch fynydd Bwlch wrth iddi dywyllu (mae llawer o lwybrau cerdded a beiciau i'w mwynhau wrth i chi aros i'r haul fachlud).

bwlchyouwontbelieveNOV

 

 10. Beth am "Rollercoaster" Rhigos? Dyma lwybr sy'n berffaith ar gyfer beicio ffordd, beicio mynydd a cherdded.

rhigosyouwontbelieveNOV

 

11. Ydych chi'n hoffi natur a hanes? Beth am fynd i Gronfa Ddŵr Maerdy? Byddwch chi'n dod o hyd i adfeilion Castell Nos, a gafodd ei adeiladu gan Arglwyddi Cymreig Meisgyn, a oedd yn ddisgynyddion Iestyn ap Gwrgant (Brenin Cymreig olaf Morgannwg). Parhaodd y castell, oedd i'w weld uwchben Cwm Rhondda, i fod dan reolaeth Cymru am gyfnod hir ar ôl i'r Normaniaid orchfygu tir mwy ffrwythlon i'r de.

maerdyyouwontbelievenov

 

12. Mae pawb yn hoffi dirgelwch a chwedlau. Mae gan Goedwigaeth Llanwynno lawer o lwybrau cerdded ac mae modd crwydro Cronfa Ddŵr Clydach a rhaeadrau Pistell Golau. Roedd yr ardal yma'n arfer bod yn fan hyfforddi dyn cyflymaf y byd – Guto Nyth Brân. Mae Rasys Ffordd Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar bob Nos Galan er mwyn cadw chwedl y rhedwr yn fyw.

llanwonnoyouwontbelieveNOV

 

13. Hen grochendy. Nantgarw yw crochendy olaf y 19eg ganrif yn y DU ac mae'n hardd! Ystyriwyd ei ddarnau o waith fel rhai o'r goreuon yn y byd ac roedden nhw i'w gweld ar fyrddau bwyd boneddigion a boneddigesau. Yn ogystal â gweithio i warchod ei waddol a pharhau i gynhyrchu, mae Nantgarw bellach yn gartref i arlunwyr modern ac mae wedi troi rhai darnau o'i waith gwreiddiol yn gemwaith hardd.

nantgarwyouwon'tbelieveNOV

 

14. Dros 1,000 o flynyddoedd o drysorau a chyfrinachau. Symudodd y Bathdy Brenhinol o Lundain i Lantrisant dros 50 o flynyddoedd yn ôl ac mae bellach yn gwneud yr holl arian sy'n cael ei wario yn y DU – yn ogystal ag arian ar gyfer dros 40 o wledydd gwahanol. Mae'r Bathdy Brenhinol hefyd yn gwneud medalau'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Ewch y tu ôl i'r llenni yn yr atyniad diddorol yma. Bathwch eich darn o arian eich hun a chofiwch alw yn y siop anrhegion.

mintyouwontbelieveNOV

Gofyn am e-lyfryn

 

Diolch:

Delme Thompson

Carly Davies

Martin Agg

Scenic Footprints

Heritage Hiker

Matthew Carpenter