Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Mae arswyd yn y Cwm y Calan Gaeaf yma!

 

Posted: 24/10/2021

Mae arswyd yn y Cwm y Calan Gaeaf yma!

Arglwyddes Lwyd Ffynnon Taf

 Yn ôl bob sôn, mae'r wraig arswydus yma'n trigo ger y ffynnon. Mae hi hefyd wedi ymddangos yn yr ardal gyfagos. Mae'n debyg ei bod hi wedi mynd i fyny at ddyn a oedd yn casglu dŵr o'r ffynnon a gofyn iddo afael yn ei dwylo. Wrth iddo wneud hynny, teimlodd boen yn ei ochr fel petai'n cael ei drywanu. Gwaeddodd hithau'n groch nad oedd wedi dal ei dwylo'n ddigon tynn, ac felly byddai'n parhau i fod yn ysbryd, yn aros yn Ffynnon Taf, ac yn dychryn y trigolion am ganrif arall. Does neb wedi ei gweld hi ers hynny - neu oes e?

Taffs Well Etching

 Ffynnon Taf yw unig ffynnon dwym Cymru ac mae’r pentref yn ne Rhondda Cynon Taf, yn agos at ei ffin â Chaerdydd. O fan hyn, mae modd ymweld â'r hudolus Castell Coch (sydd wedi'i amgylchynu gan goedwig arswydus enfawr), neu fynd ar daith gerdded hyfryd i fyny Mynydd y Garth.

castellcoch

 Marchogion Brenin Arthur sy'n cysgu yng Nghraig Y Dinas

Wyneb creigiog anferth a godidog yw Craig Y Ddinas, sydd wedi'i lleoli yng nghornel uchaf Rhondda Cynon Taf, wrth odre Bannau Brycheiniog.

Mae'n debyg bod siambr gyfrinachol ym mherfeddion y graig sy'n llawn gemau amhrisiadwy a metelau gwerthfawr. Mae byddin o farchogion y Brenin Arthur yn cysgu yno ac yn gwarchod y trysor. Os byddwch chi'n mentro i'r ogof, bydd cloch yn canu, yn deffro'r Marchogion a bydd y canlyniadau'n drychinebus!

craig u ddinas

 Mae Craig Y Ddinas a'i llwybrau cerdded mynyddig trawiadol yn le poblogaidd i fynd ar antur yng nghysgodion Bannau Brycheiniog. Mae hi hefyd o fewn ychydig filltiroedd i ddistyllfa chwisgi Penderyn. Yma, mae modd mynd ar daith y tu ôl i'r llen a dysgu sut mae'r gwirod yma, sydd wedi ennill gwobrau ledled y byd, yn cael ei wneud. Ac oes, mae modd ei flasu hefyd! 

penderyn

Morwyn y Llyn, Glynrhedynog

Mae sawl fersiwn o'r stori iasoer yma, ac mae gan bob un yr un diweddglo – sef bod ysbryd Arglwyddes y Llyn yn parhau i drigo ym Mharc y Darran. Yn ôl pob sôn, mae pobl wedi clywed sgrechian uchel, dŵr yn tasgu ac mae rhai yn honni iddyn nhw weld y forwyn ei hun hyd yn oed!

Yn ôl rhai, Nelferch yw hi, sef gwraig oedd yn byw yn y llyn gyda'i theulu a'i gwartheg. Aeth ffermwr lleol â'i geffyl i yfed o ddyfroedd oer y llyn a phan welodd ef hi, cwympodd mewn cariad â hi ar unwaith. Hudodd hi drwy ganu caneuon enwog y cymoedd iddi.  Fe briodon nhw, ond unwaith, wedi dadl, fe gamodd hi i ddyfnderoedd tywyll y llyn, byth i ddychwelyd. Ar ôl iddi ddiflannu, aeth y ffermwr yn wallgof yn ei alar.

Yn ôl eraill, cafodd ei llofruddio gan ei dyweddi, a oedd am briodi rhywun arall, ac fe guddiodd ef hi yn y llyn.

darran park

Mae Glynrhedynog wir yn un o gymunedau traddodiadol y Cwm. Mae wedi'i hamgylchynu gan glybiau gweithwyr, corau ac, wrth gwrs, mynyddoedd. Dyma'r lle perffaith i ddarganfod a mwynhau coedwigaeth Llanwynno, gyda'i chronfa ddŵr, ei rhaeadr a'i golygfeydd. Mae'r dafarn y Brynffynnon hefyd yn cynnig bwyd hyfryd a golygfeydd godidog.

Llanwonno -  Rhondda Valley Views-1

Gwesty a Chlwb Iechyd Maenordy Meisgyn

Mae sôn bod ysbrydion yn bodoli yn llawer o ystafelloedd y maenordy hynafol yma, sy'n dyddio'n ôl i'r 10fed Ganrif. Mae'n aml yn ymddangos ar restrau o adeiladau sy'n gartrefi i ysbrydion yng Nghymru.

 Mae cyn arglwydd y faenor wedi'i weld lawer gwaith yn ystafell y Dderwen, ac mae modd gweld merch ifanc yn chwarae yn rhai o'r ystafelloedd gwely.

Y mwyaf adnabyddus yw'r fenyw sy'n ymddangos yn y bar, fel arfer rhwng hanner nos ac 1am, yn cerdded trwy'r ystafell fel pe bai ar ei ffordd i rywle. Ymwelodd helwyr ysbrydion â'r gwesty i geisio cwrdd â hi, ond ni wnaeth ymddangos. Wrth iddyn nhw adael, gan feddwl ei bod hi'n rhyfedd nad oedden nhw wedi gweld unrhyw ysbrydion, cafodd un o'r portreadau enfawr, hynafol sy'n hongian ar waliau'r coridor ei godi a'i daflu. Atgof gan yr ysbrydion efallai bod peidio â gweld rhywbeth ddim yn golygu nad yw yno.

miskin manor

 Yn ogystal â bod yn le hyfryd i sefyll ac ymlacio, mae'r maenordy yn dafliad carreg yn unig o Daith Pyllau Glo Cymru. Mae'r atyniad yma wedi ennill gwobrau ac mae'n brofiad Cymreig heb ei ail.

wmefamily

 Llantrisant

Pwy fyddai'n meddwl y byddai modd i rywle mor brydferth â Llantrisant guddio cymaint o erchyllterau? Y si yw bod ysbrydion y milwyr gafodd eu lladd yno'n aflonyddu ar y castell, tra bod ysbryd cyn warden y wyrcws yn crwydro'r dref yn tincial ei allweddi.

Ewch i fyny i'r Hen Felin Wynt syfrdanol rhyw noson (yn lleol, caiff y felin ei galw'n Billy Wynt). Gwyliwch allan am ysbryd bachgen a gafodd ei lofruddio yno, ac ar y comin, mae ysbrydion ac ellyllon yn crwydro'n wyllt.

Ond, peidiwch ag ofni'r chwedlau! Mae tref Llantrisant yn llawn perlau, gan gynnwys yr holl deithiau cerdded godidog sy'n ei hamgylchynu, a Neuadd y Ddinas sy'n dod â hanes y dref yn fyw ag arddangosfeydd, gemau ac achlysuron. Mae llwyth o lefydd i fwyta a siopa hefyd.

Llantrisant - Bunny Walk - Castle - Church - Guild Hall - Hen Felin Wynt-2

Ychydig y tu allan i Lantrisant mae'r Bathdy Brenhinol, sy'n cynnig cyfle i chi ddysgu am ddarnau arian ymysg pethau eraill, a gweld yr hyn sy'n digwydd tu ôl i lenni'r sefydliad yma sydd wedi bodoli ers 1,000 o flynyddoedd.

mint

 Arglwyddes Wen y Rhigos

Mae gyrwyr niferus wedi adrodd straeon iasol am y wraig sy'n bodio (hitchhike). Maen nhw wedi dweud sut maen nhw wedi cynnig lifft iddi wrth iddyn nhw yrru dros gopa tywyll, niwlog Mynydd y Rhigos.

Mae'r wraig yn ymddangos yn y niwl ac yn bodio am lifft ar ochr y ffordd. Mae'r bobl garedig sydd wedi stopio i'w helpu, wedi'i gwylio hi'n mynd mewn i'w car ac yna'n diflannu'n llwyr wrth iddyn nhw yrru i ffwrdd.

rhigos

O ysbrydion i'r ysbrydoledig, mae mynydd y Rhigos hefyd yn gartref i brofiad newydd sbon Zip World Tower. Hedfanwch o gopa'r mynydd ar wifren wib gyflymaf y byd neu beth am daith ar y cerbyd gwefr-gwyllt – ddewch chi ddim o hyd i un arall tebyg iddo yn Ewrop.

zipworld

Cornel ddychrynllyd Glyncornel

Does neb wedi gweld ysbrydion yn y naturfan heddychlon yma (eto), ond mae'n dal i fod yn gartref i bethau sy'n gwichian yn y nos. Mae'n gartref i glwydfan Ystlumod Pipistrelle ac mae modd gweld ystlumod pedol yn hedfan o amgylch yr ardal gyfagos gyda'r nos hefyd (gan gynnwys mynydd trawiadol Clydach sydd i'w weld yn y pellter y tu ôl Lyncornel).

bat

 Does dim byd tywyll ac ofnus am y gornel yma, mae Glyncornel wedi'i amgylchynu gan harddwch naturiol yr awyr agored. Ymwelwch â Pharc Cefn Gwlad trawiadol Cwm Clydach lle mae dau lyn, byd natur a chaffi yn edrych dros y dŵr. Defnyddiwch lwybrau cerdded lleol i grwydro i fyny a thros y mynyddoedd, gan gynnwys mynydd Clydach, lle gallwch chi edrych i lawr ar lyn Glyncornel!

Clydach Vale Lake-80