Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

 

Trecynon, Aberdare CF44 7RG

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn sefyll mewn 500 erw o goetiroedd, tir pori a rhostir mynydd, a chyda dau lyn prydferth, mae ganddo ddigon i'w gynnig. Mae'r llety yma'n sefyll wrth ymyl Canolfan Ymwelwyr a Chaffi'r Parc ac yn llecyn bendigedig sy'n addas ar gyfer unrhyw ymweliad i'r ardal. Mae'n cynnwys 15 ystafell wedi'u hadnewyddu mae modd i hyd at 4 gwestai gysgu ynddyn nhw (neu 5 gwestai gyda gwely plygu). Mae en-suite i bob ystafell ac mae setiau teledu LCD, cyfleusterau gwneud coffi a thywelion/dillad gwely.

Archebu ar lein

Os ydych chi'n chwilio am wyliau i'r teulu, achlysur adeiladu tîm neu gynhadledd, man cychwyn ar gyfer taith ysgol neu goleg, neu hyd yn oed penwythnos i ymlacio gyda ffrindiau, llety Parc Gwledig Cwm Dâr yw'r lleoliad perffaith. Mae gweithgareddau awyr agored ar y safle neu gerllaw'r safle (cerdded ceunentydd, canŵio, beicio mynydd, saethyddiaeth, dringo, abseilio, cyfeiriannu, caiacio, ogofa, adeiladu rafftiau, medrau cefn gwlad, saethu laser a mwy).