Gall y Cyngor ddarparu ystod eang o gyfleoedd i bobl ifainc wirfoddoli’n lleol, drwy ein canolfannau ieuenctid a Chynllun Gwobr Dug Caeredin.
Beth bynnag fo’ch diddordeb - gweithio â phlant, pobl ifainc, neu ddatblygu prosiectau yn eich ardal chi - dewch i siarad â ni ac fe wnawn ni’n gorau i ddod o hyd i’r lleoliad gwirfoddoli perffaith i chi. Byddwn ni’n cynnig y canlynol:
-
Yr hyfforddiant, y datblygiad a’r gefnogaeth briodol
-
Cyfleoedd i fod yn rhan o dîm, i gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau newydd
-
Profiad gwaith gwerthfawr
Dylid nodi y bydd pob gwirfoddolwr posibl yn gorfod cael gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol [CRB].
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, ewch i: www.gwirfoddolicymru.net|
Manylion cyswllt
Cyfadran Addysg a Gwasanaethau i Blant
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Ffôn: (01443) 744000 / (01443) 424400
Ffacs: (01443) 744023