Beth yw Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)? Dyna anghenion plant sydd â rhyw anawsterau dysgu, neu anableddau, sy’n gwneud dysgu neu gael budd o addysg yn fwy anodd iddyn nhw nag i ran fwya plant eu hoedran. Bydd Anghenion Addysgol Arbennig gyda llawer o blant yn ystod eu haddysg.
Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i helpu’n disgyblion i gyd gyrraedd eu llawn dwf, drwy sicrhau’u bod i gyd yn cael cyfle cyfartal i dderbyn addysg o ansawdd uchel. Mae’r mwyafrif o blant sydd ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu haddysgu’n llwyddiannus o fewn eu sefydliadau addysg gynnar neu’u hysgolion prif ffrwd lleol, weithiau â chymorth arbenigwyr o’r tu allan.
Os oes anghenion addysgol arbennig gyda’ch plant chi, mae’n bosibl y byddan nhw angen cymorth ychwanegol mewn ambell i faes. Dyma rai:
-
gwaith ysgol
-
darllen, ysgrifennu, gwaith rhifo neu ddeall gwybodaeth
-
mynegi eu hunain neu ddeall beth mae pobl eraill yn ei ddweud
-
gwneud ffrindiau neu sefydlu perthynas gydag oedolyn
-
ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
-
trefnu eu hunain
-
rhyw fath o anghenion synhwyraidd neu gorfforol a all effeithio arnynt yn yr ysgol
Os bydd y Gwasanaeth Cynnal Dysgu yn nodi bod Anghenion Addysgol Arbennig gyda disgyblion, byddwn ni’w darparu amrediad eang o gefnogaeth arnebigol iddyn nhw. Os hoffech chi wybod rhagor, cysylltwch â ni:
Gwasanaeth Cynnal Addysg
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ
Ffôn: (01443) 744000
Ffacs: (01443) 744340
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi gwybodaeth am Addysg Arbennig ar eu gwefan rhwydrhieni|. Mae hyn yn cynnwys cyswllt â Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru|.