Hyfforddwyr Ieuenctid - gwybodaeth a manylion cyswllt

 BTFT-Banner-Welsh

Mae’r Hyfforddwr Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion gan ganolbwyntio ar Lwybrau Dysgu. Mae’r cyfrifoldeb ganddynt o weithio’n agos â staff yr ysgol i ddatblygu Cynlluniau Dysgu Unigol (CDU) effeithiol.

Mae’r cynlluniau hyn yn adlewyrchu anghenion unigol y person ifanc ac yn darparu’r strwythur ar gyfer cefnogaeth, arweiniad, hyfforddi a mentora drwy osod targedau a gweithio tuag atynt. Nod hyn yw ennyn diddordeb a chodi dyheadau’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio â nhw wrth eu helpu i gyflawni eu nodau hefyd. 

Bydd yr Hyfforddwr Ieuenctid yn gweithio’n agos â Gweithiwr Allweddol ADGG o fewn pob ysgol i ganfod rhwystrau tuag at ddysgu a gweithio tuag at gael gwared ohonynt a hyrwyddo cyfranogiad gweithredol pobl ifanc mewn gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol sy’n gadarnhaol. Wrth eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau dysgu maen nhw’n anelu at wneud y mwyaf o’u datblygiad a chyflawni eu potensial.  

Os hoffech ganfod rhagor o wybodaeth am yr hyn mae Hyfforddwyr Ieuenctid yn ei wneud neu sut gallwch chi neu eich plentyn elwa o’r cymorth oddi wrth weithiwr ieuenctid ffoniwch y Rheolwr Ymyrraeth  - Sarah David ar:

Ffôn: 01443 744117 
E-bost: Sarah.David@rctcbc.gov.uk|

Gweld ein rhestr gyswllt Hyfforddwyr Ieuenctid

Youth-coaches-group