Mae pobl ifainc Rhondda Cynon Taf yn mwynhau gweithgareddau allgyrsiol hwyl ac am ddim diolch i Gynllun E3+ y Cyngor, sef un o sawl cynllun sy'n cael ei ddarparu gan y Gwasanaethai i Bobl Ifainc.
Mae E3+ yn seiliedig ar y geiriau ‘Extend, Enrich, Excite’ ac mae’n cynnig cyfle i bobl ifainc a chymunedau dreulio amser y tu allan i’r diwrnod ysgol mewn lleoliadau diogel a saff.
Cynnigir mynediad i amrywiaeth eang o weithgareddau cyffrous, sydd am ddim ac yn rhoi boddhad. Cynnig profiadau, sgiliau a chymwysterau newydd yw’r amcan gyda’r nod o godi uchelgais ac yn ehangu gorwelion.
Yn dilyn yr ymgynghori hwn, caiff amserlen gyffrous o weithgareddau e3+ eu cynnig bob tymor i bobl ifainc. Mae’n bosib gweld yr amserlenni hyn ar wefan Wicid - www.wicid.tv| o dan ein dogfennau perthnasol neu drwy ddilyn y dolenni isod:
Os hoffai person ifanc gadw lle ar weithgaredd yna cysylltwch â’r Cydlynydd e3+ sydd wedi eu lleoli yn y 12 clwstwr.
Dyma rai o'r gweithgareddau sydd ar gael:
Cerddoriaeth
-
Gwersi gitâr
-
Clwb Glee
-
OCN mewn Ysgol Roc
Cyfryngau
-
Grŵp Cylchgrawn/Cyfryngau
-
Animeiddio
-
OCN mewn Gwneud Ffilm
Celfyddau
-
Breg-ddawnsio
-
Celfyddyd Graffiti
-
OCN mewn Ffasiwn
Chwaraeon
-
Rhedeg Rhydd
-
Pêl-droed Dinas Caerdydd
-
Gwobr Efydd Achub Bywyd
Gweithgareddau Awyr Agored
-
Beicio Cwad
-
Marchogaeth
-
Gwobr Dug Caeredin
Sgiliau Sylfaenol/Bywyd
-
Ysgrifennu CV
-
Coginio
-
OCN mewn Gyrru
Sgiliau Cyflogadwyedd
-
Gwaith Coed
-
Trin Gwallt
-
Gwaith Plymwr
Cwricwlwm Estynedig
-
Athletau
-
Clybiau Gwaith Cartref
-
TGAU Seryddiaeth
Cael hwyl yw neges E3+ wrth ddysgu a meddiannu sgiliau newydd ar yr un pryd. Edrychwch ar ein horiel luniau
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Rheolwr E3+ ar:
Ffôn: 01443 744 046