Llywodraethwyr ysgol

Mae cymorth penodol ar gael i bawb o lywodraethwyr yn Rhondda Cynon Taf. Llywodraethwyr yw un o'r grwpiau mwyaf o wirfoddolwyr. Maen nhw'n hyrwyddo cyfleoedd addysg, ac yn annog plant a phobl ifainc lleol i gyrraedd eu llawn dwf.

Mae 3 ysgol feithrin, 112 o ysgolion cynradd, 19 o ysgolion uwchradd a 4 ysgol arbennig yn Rhondda Cynon Taf. Mae i lywodraethwyr swyddogaeth bwysig ym mywyd ein hysgolion, a'u gwaith. Mae hynny'n cael ei gydnabod trwy gydol y gyfundrefn addysg. Bydd dogfen Bod yn Llywodraethwr Ysgol |yn rhoi mwy o syniad i chi ynglŷn â swyddogaeth a chyfrifoldeb llywodraethwyr ysgol.

Mae'r cyrsiau a chyfleoedd hyfforddiant (cyfrwng Saesneg) ar gael yn rhad-ac-am-ddim i lywodraethwyr. Dyma flas o'r hyn sydd ar gael:-

  • Ein rhaglen Hyfforddi Llywodraethwyr ar gyfer haf 2012
  • Hwyrach y byddai hi'n bosibl (gan ddibynnu ar y galw) i gynnig cyrsiau hyfforddi penodol ar gyfer cyrff llywodraethu neu glystyrau penodol, ar unrhyw fater/pwnc o'u dewis.
  • Rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau cyfagos, ac felly os ydych chi'n byw tu allan i ffiniau Rhondda Cynon Taf, efallai byddai modd ichi fynd i gyrsiau un o'r awdurdodau cyfagos eraill.

    Oes diddordeb gyda chi mewn manteisio ar unrhyw o'r cyrsiau sydd wedi'u nodi yn y rhaglen? Os oes, llenwch y ffurflen cadw lle a'i hanfon hi'n ôl ar gyfer sylw Janet Jenkins. Hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â chyrsiau hyfforddiant penodol/arbennig? Neu hoffech chi fanteisio ar gyrsiau hyfforddi dan ofal awdurdod cyfagos? Cliciwch ar y cysylltau ar ochr dde y dudalen, a mynnu gair â Janet Jenkins i gael rhagor o wybodaeth - 01443 744060 neu neges ebost janet.jenkins@rctcbc.gov.uk

    Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, Tŷ Trevithick, Abercynon, RhCT CF45 4UQ

    O fod yn llywodraethwyr, bydd ein plant a phobl ifainc, penaethiaid ysgolion a staff, rhieni a chymunedau yn sicr o elwa ar eich ymroddiad.

    Hoffech chi ragor o wybodaeth, neu gael sgwrs anffurfiol ag aelod o staff y Gwasanaeth? Croeso ichi gysylltu â ni

    Ffôn: 01443 744000

    Ebost: cymorthilywodraethwyr@rctcbc.gov.uk