Mae prydau ysgol am ddim ar gael i’r plant hynny mae’u rhieni neu warcheidwaid yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd:
-
Credyd Treth i Blant – lle bod cyfanswm yr incwm blynyddol heb fod dros £16,040
-
Cymhorthdal Incwm (gyda chyfrifoldeb dros blant)
-
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (gyda chyfrifoldeb dros blant)
-
Cymorth yn unol â Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
-
Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
-
Disgyblion sy’n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm ac sydd hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
-
Lwfans Cyflogaeth â Chymorth (yn seiliedig ar incwm) (ESA(IR)).
Ydw i’n gymwys os ydw i’n hawlio Credydau Treth i Bobl sy’n gweithio (gydag incwm heb fod dros £16,040)?
Nac ydych, ond os bydd eich amgylchiadau’n newid a’ch bod chi ddim yn gymwys i gael Credydau Treth i Bobl sy’n Gweithio ragor, mae’n rhaid i chi ddweud wrth Cyllid y Wlad. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai bydd modd dechrau prydau ysgol am ddim.
Bydd gofyn ichi gyflwyno un o’r dogfennau canlynol yn gefn i’ch cais:
-
Copi o’r dudalen "Sut mae cyfrifo’ch Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith" sydd ynghlwm â llythyr diweddar. Os does dim copi gyda chi, cysylltwch â’ch Asiantaeth Budd-daliadau leol. leol.
-
Copi o’ch Hysbysiad Treth Cyfredol. Os does dim copi gyda chi, cysylltwch â Gwifren Gymorth Cyllid y Wlad ar 0845 300 3900 ar 0845 300 3900
-
Copi o’ch Hysbysiad Credyd Pensiwn Cyfredol (M1000) neu Hysbysiad Credyd Treth i Blant (TC602)
-
Mae gofyn bod y sawl sy’n ceisio noddfa’n cyflwyno Rhif Cyfeirnod NASS i gadarnhau’ch hawl.
Cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim
Mae gofyn eich bod chi’n llenwi ffurflen gais i hawlio prydau ysgol am ddim, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod:
Ffurflen Gais Prydau Ysgol am Ddim
Mae’r rhain ar gael yn yr ysgol hefyd. Mae manylion cyswllt ein hysgolion i gyd ar gael trwy ddefnyddio dolen chwilio dod o hyd i Ysgol
Newid yn eich amgylchiadau
Os ydych chi’n hawlio prydau ysgol am ddim a bod newid yn eich amgylchiadau a all effeithio ar eich hawl, mae hi’n hollbwysig eich bod chi’n rhoi gwybod inni ar unwaith.
Mae modd ichi roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau trwy: