Lleoedd Ysgolion - Derbyn disgyblion

Chwilio Dalgylch ysgolRhowch eich côd post isod:

Mae 'Awdurdod Derbyn' yn rheoli ac yn gweinyddu materion derbyn plant i ysgolion.

Yn achos Ysgolion Cymuned, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (yr Awdurdod) ydy'r Awdurdod Derbyn cydnabyddedig. O ran yr Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (o dan adain yr eglwysi), cyrff llywodraethu'r ysgolion Eglwys unigol ydy’r Awdurdod Derbyn.

Mae manylion cyswllt ar gyfer pob ysgol yn Rhondda Cynon Taf ar gael drwy ddefnyddio’r blwch Chwilio am ysgol.

|Yn Rhondda Cynon Taf, mae gan bob ysgol ardal arbennig y mae hi’n ei gwasanaethu - sef ei dalgylch.  Mae modd ichi weld dalgylch yr ysgolion trwy ddefnyddio’n Adnodd Chwilio Dalgylch Ar-lein|

Mae'r rhan fwyaf o'r rhieni/cynhalwyr (gofalwyr) yn dewis anfon eu plant i'w hysgol ‘leol’, ond mae gan rieni/cynhalwyr yr hawl i fynegi dewis ar gyfer ysgol wahanol i’w plentyn.

Does gan ddisgyblion sy’n byw yn nalgylch ysgol ddim hawl awtomatig, mwyach, i fynychu’r ysgol honno. Rhaid anfon cais a bydd pob un yn cael ei ystyried gan gymhwyso meini prawf yr Awdurdod ar gyfer derbyn i’r ysgol. Mae’r meini prawf ar gael yn y llyfryn Dechrau’r Ysgol|, ac mae crynodeb ohonyn nhw isod.

 

Cyflwyno cais am le

Mae dwy ffordd o dderbyn disgyblion yn ystod y flwyddyn, sef

  1. y drefn flynyddol arferol ar gyfer derbyn disgyblion,
  2. a trefn trosglwyddo disgyblion canol tymor / yn ystod y flwyddyn.

Trefn Debyn Digyblion Flynyddol

Mae’r broses flynyddol yma’n cynnwys disgyblion a fydd yn newid ysgolion ym mis Medi, bob blwyddyn. Mae hynny’n cynnwys:

  • Derbyn i ddosbarth meithrin
  • Derbyn i ddosbarth derbyn mewn ysgol
  • Trosglwyddo o ysgol y babanod i ysgol iau
  • Trosglwyddo o ysgol iau neu ysgol gynradd i ysgol uwchradd

Ym mhob achos bydd angen i rieni/cynhalwyr disgyblion sydd ar fin newid ysgol yn unrhyw un o’r achosion uchod lenwi cais gan nodi’u dewis ysgol(ion).

Ydych chi’n gwneud cais am le mewn ysgol dan ofal yr eglwysi? Os ydych chi, rhaid gwneud y cais yn uniongyrchol i’r ysgol. Edrychwch yn y llyfryn Dechrau’r Ysgol|.

Ydych chi'n gwneud cais am le mewn ysgol gymuned? Rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Mae ffurflenni cais i'w cael:-

  • oddi wrth yr ysgol,
  • oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ffoniwch ni ar 01443 744232
  • drwy anfon neges e-bost i derbyndisgyblion@rhondda-cynon-taf.gov.uk
  • Neu, codwch eich ffurflen ffurflen gais oddi ar y wefan hon
    (gweler y dogfennau perthnasol ar y dde).

Cofiwch lenwi’r ffurflen sy’n berthnasol i’r grŵp blwyddyn y bydd eich plentyn yn dechrau ynddo ym mis Medi 2013.  Edrychwch hefyd ar y ‘Canllawiau - Ffurflenni Derbyn Disgyblion'|.

Anfonwch y ffurflenni wedi’u llenwi, ynghyd â thystiolaeth addas o gyfeiriad eich cartref, i’ch dewis cyntaf o ysgol erbyn y dyddiadau penodol sydd wedi’u nodi ar y ffurflen gais ac ar amserlenni ein trefniadau derbyn disgyblion|. Byddwn ni’n prosesu ceisiadau hwyr, ond efallai bydd eich dewis ysgol yn llawn ac felly fyddai dim modd inni gynnig lle i’ch plentyn yno.

Does dim rhaid i’r Awdurdod fodloni’r dewis sydd wedi’i nodi ar y ffurflen gais. Bydd polisi derbyn plant yr Awdurdod (gweler Llyfryn Dechrau’r Ysgol|) yn pennu a fydd modd cynnig lle i'ch plentyn yn eich dewis ysgol ai peidio.  Mae crynodeb o'r meini prawf isod .

Cofiwch nodi gwybodaeth gywir ar y ffurflen gais. Mae gofyn i rieni/cynhalwyr gyflwyno tystiolaeth i ategu’r hyn maen nhw wedi’i nodi. Efallai byddwn ni’n defnyddio cronfeydd data eraill y Cyngor i gadarnhau’ch gwybodaeth yn ogystal.

Trosglwyddo Canol Tymor / yn ystod y flwyddyn

Mae hyn yn golygu unrhyw gais i drosglwyddo plentyn o un ysgol i un arall y tu allan i’r cyfnod blynyddol arferol ar gyfer derbyn disgyblion (h.y newid ysgol hanner ffordd trwy’r flwyddyn ysgol; neu newid ysgol yn ystod eu cyfnod addysg yn yr ysgol gynradd neu ysgol uwchradd). 

Mae modd ichi gael ffurflen ‘Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn ysgol’ o bob ysgol neu oddi wrth Gyngor Rhondda Cynon Taf. Rhaid ichi anfon eich ffurflenni ar gyfer sylw:- Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, RhCT, CF45 4UQ.  Hoffech chi drafod y dewisiadau a’r prosesau ar gyfer trosglwyddo o ysgol i ysgol? Ffoniwch y Gwasanaeth ar 01443 744 232.

Nodwch: Gall newid ysgol fod yn gam mawr i'ch plentyn, beth bynnag ei oedran. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector Uwchradd, yn enwedig pan fydd eich plentyn wedi cyrraedd Blwyddyn 10 neu 11, wedi dewis pynciau ac yn astudio ar gyfer arholiadau. Mae'n bosibl y bydd y dewisiadau, neu'r bwrdd arholi, sydd ar gael fod yn hollol wahanol yn yr ysgol arall, hyd yn oed os yw'r ysgol honno yn Rhondda Cynon Taf. Gall newid ysgol yn ystod y cyfnod yma gael effaith sylweddol ar gyflawniad eich plentyn yn yr arholiadau y bydd e/hi yn eu sefyll ym Mlwyddyn 11, megis TGAU, BTEC ac ati. Dylai'r penderfyniad i newid ysgol, felly, gael ei ystyried yn ofalus cyn i chi fwrw ymlaen.

Meini Prawf ar gyfer Derbyn Disgyblion

Mae i bob ysgol yn Rhondda Cynon Taf ei nifer ar gyfer derbyn (admission number yn Saesneg). Mae’r nifer yma’n cael ei bennu gan ystyried faint o le (capasiti) sydd yn yr ysgol ar gyfer disgyblion. Mae’r darn nesaf o wybodaeth yn berthnasol i ysgolion cymuned yn unig. Mae gan ysgolion dan adain yr eglwysi’u trefniadau eu hunain. Fe gewch chi weld eu manylion yn llyfryn Dechrau’r Ysgol|, neu drwy gysylltu â’r ysgolion yn uniongyrchol.

Fel arfer bydd plentyn yn cael lle mewn ysgol gymuned o ddewis ei rieni/cynhalwyr. Eithriad i hyn yw pan fydd yr ysgol wedi cyrraedd y nifer sydd wedi’i bennu ar ei chyfer hi. Yn yr achosion yma o ormod o alw na’r lleoedd sydd ar gael, fe fydd yr Awdurdod Lleol yn cynnig lle i blentyn yn ôl y blaenoriaethau yma:

  1. Plant dan adain gofal y Cyngor (plant sy mewn gofal).
  2. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol sydd â brawd neu chwaer hŷn ynddi ac sy’n byw yn yr un cartref â nhw pan mae’r cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol honno yn y mis Medi nesaf.
  3. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ond does dim brawd neu chwaer hŷn gyda nhw ynddi.
  4. Plant sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, ac sydd â brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol ac sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw pan mae’r cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu’r ysgol honno yn y Medi nesaf.
  5. Plant sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, ac sydd heb frawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol.

Oni fydd digon o leoedd ar gyfer y plant sy’n dod o dan unrhyw un o’r categorïau blaenoriaeth uchod, bydd y lleoedd yn cael eu rhoi i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol. Bydd yr Awdurdod yn mesur y pellter yn ôl y daith gerdded ddiogel, ferraf rhwng y cartref a'r giât agosaf yr ysgol sy'n agored. 

Yn achos rhieni sy’n rhannu cyfrifoldebau gofal am blentyn, y cyfeiriad ar gyfer talu Budd-dâl Plant fydd y cyfeiriad i’w gymryd i ystyriaeth

Er tegwch i bawb sy’n cyflwyno ceisiadau, byddwn ni’n defnyddio meddalwedd Mapinfo yn unig i fesur y pellter. Fyddwn ni ddim yn rhoi ystyriaeth i unrhyw system arall.

Cyflwyno Apêl

A siarad yn gyffredinol, fe fydd plant yn cael eu derbyn i ysgol sy’n ddewis cyntaf eu rhieni/cynhalwyr. Serch hynny, os nad yw hynny’n digwydd, mae hawl gyda rhieni/cynhalwyr gyflwyno apêl i Banel Apeliadau Annibynnol. 

Mae cyngor a gwybodaeth am y weithdrefn cyflwyno apêl yn llyfryn Dechrau’r Ysgol| neu, cysylltwch â’r Gwasanaeth (manylion isod).

Disgyblion heb drwydded deithio'r Deyrnas Unedig

Os bydd rhiant/cynhaliwr yn ceisio am le mewn ysgol ar gyfer plentyn a does dim trwydded deithio (pasport) y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon gydag e/hi, mae rhaid cyflwyno cais yn uniongyrchol i’r Garfan Materion Derbyn Disgyblion, Tŷ Trevithick (manylion isod). Fe fydd eisiau i’r garfan weld y drwydded deithio wreiddiol/dogfennau’r fisa cyn caniatáu lle i’r plentyn. 

Fydd plentyn ddim yn cael ei dderbyn i'r ysgol oni bai bod y manylion sydd wedi'u nodi yn y drwydded deithio / teitheb yn bodloni’r rheoliadau sydd i’w cael yn nogfen Y Côd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwybodaeth ychwanegol

I ddarllen yr wybodaeth yn llawn, cliciwch ar lyfryn Dechrau’r Ysgol|.

Mae gwybodaeth gryno gyffredinol hefyd ar gael yn ein llyfryn crynodeb ‘Dechrau’r Ysgol'|

Mae gwybodaeth gryno ar gyfer rhieni/cynhalwyr babanod newydd-anedig ar gael yn ein ‘Canllaw Cyflym ar gyfer Rhieni Babanod Newydd’|

I weld gwybodaeth ynglŷn ag ysgol yn eich ardal gan gynnwys cyfeiriadau, rhifau ffôn ac enw a manylion y pennaeth, defnyddiwch ein gwasanaeth Chwilio am Ysgol|.

Bydd modd ichi weld dalgylch ysgol eich plentyn trwy ddefnyddio’n blwch chwilio ar-lein|.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â Charfan Materion Derbyn Disgyblion:-

Carfan Materion Derbyn Disgyblion
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ

Ffôn:  01443 744232
Ebost:
derbyndisgyblion@rhondda-cynon-taf.gov.uk|