Prisiadau

Beth yw gwerth eich eiddo busnes? Mae yna lawer o resymau dros ganfod gwerth eich eiddo busnes – gwarant ar fenthyciad, prynu neu werthu eiddo, ar gyfer ei gynnwys yn eich cyfrifon neu brosbectws neu at ddibenion yswiriant.

Ond mae prisio eiddo’n gymhleth ac nid oes y fath beth ag un prisiad y gellid ei ddefnyddio at bob diben. Mae gwahanol brisiadau’n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio gwahanol dybiaethau - ac efallai y bydd yr atebion yn amrywio yn ôl diben y prisiad.

Bydd eich Syrfëwr Siartredig yn gallu dweud wrthych chi pa brisiad sydd orau ar eich cyfer chi, a’i gynnal hefyd, ond dim ond ar ôl i chi esbonio’n glir iawn beth yw diben y prisiad.

Mae rhagor o wybodaeth am brisiadau ar gael ar wefan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig: Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS)|