Pafin isel yw pan fydd ymylfaen y pafin yn cael ei ostwng yn nes at lefel y ffordd er mwyn i gerbyd allu gyrru dros y pafin i barcio ar lain parcio lain parcio tŷ. Weithiau bydd pafin isel yn cael ei alw’n groesfan/fan croesi i gerbydau.
Os ydych chi am yrru cerbyd ar draws troedffordd er mwyn cyrraedd llain barcio (drive), mae rhaid i chi gael pafin ag ymylon isel wedi’i osod – mae’n anghyfreithlon i yrru ar draws y droedffordd heb bafin isel.
Os ydych chi am osod pafin isel, mae rhaid i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf drwy ddefnyddio’r manylion isod gan ddarparu eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn yn ystod oriau gwaith.
Bydd ein staff yn anfon llythyr a’r ffurflen gais berthnasol atoch chi. Yna, bydd gofyn i chi lenwi’r ffurflen a’i anfon yn ôl gan gynnwys cynllun o’r safle. Bydd rhaid i’r cynllun ddangos yn glir lle bydd y pafin isel yn cael ei roi. Hefyd, bydd rhaid cynnwys £15, sef y gost am gael gwneud y cais. Sylwer, mae’n rhaid i chi dalu’r gost hyd yn oed os bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich ffurflen gais wedi’i llenwi, bydd un o’n Arolygwyr Priffyrdd ni yn ymweld â’r safle i benderfynu os yw’r cynnig yn bosibl. Os bydd yr arolygwr yn cytuno â’r cais, bydd yn anfon rhagor o ffurflenni yn gofyn am wybodaeth am y contractwyr/adeiladwyr fydd yn gwneud y gwaith ac am eu manylion yswiriant nhw. Mae rhaid anfon y ffurflenni yma yn ôl ni’r swyddfa cyn i unrhyw waith gael ei wneud ar y llain barcio.
Unwaith bydd y gwaith wedi’i orffen, mae rhaid anfon y ffurflen olaf yn ôl aton ni. Bydd ein Harolygwr ni’n ymweld â’r safle i wneud yn siŵr bod y gwaith ar y pafin yn cyrraedd y safonau gofynnol.
Nac oes. Fydd y Cyngor ddim yn gwneud y gwaith oni bai ein bod ni eisoes yn gwneud gwaith ar droedffordd neu yn adfer ymyl y pafin yn agos iawn at du allan eich eiddo. Yn yr achos yma, byddwch chi wedi derbyn llythyr gan ein Rheolwr Priffyrdd yn cynnig y gwasanaeth i chi am £75.
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal y Strydoedd
Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal y StrydoeddRhondda Cynon TafTŷ GlantafUned B23, Ystad Ddiwydiannol TrefforestPontypriddCF37 5TT
Ffôn: 01443 494700
Ffacs: 01443 844310
E-bost: Customer.Services@rhondda-cynon-taf.gov.uk|