Labelu bwydydd a'u cynhwysion

Amcan labeli bwyd yw dweud wrthyn ni beth rydyn ni’n ei fwyta. Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis inni’r defnyddwyr. Mae Rheoliadau mewn grym i atal cwmnïau bwyd rhag rhoi labeli camarweiniol ar y bwyd.

Beth sydd ei angen ar becynnau?

  • Gwir enw’r bwyd
  • Rhestr cynhwysion
  • Cyfarwyddiadau storio
  • Dyddiadau parhauster, h.y. ‘gorau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’
  • Enw a Chyfeiriad
  • Gwybodaeth faethol
  • Maint
  • Datganiadau Cynhwysion Meintiol (DCM)
  • Honiadau Iechyd

Enw’r Bwyd

Dyma’r tair ffurff gymeradwy ar enwau bwydydd:

  • enw’r cynnyrch sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, e.e. ‘siocled llaeth’
  • enw arferol y cynnyrch, e.e. ‘toesen’
  • enw, neu ddisgrifiad byr, sy’n ddisgrifiad addas o’r cynnyrch. Rhaid gwneud yn siŵr fod defnyddywr ddim yn drysu rhwng hwn a chynhyrchion eraill.

Ydy enw’r bwyd yn cynnwys enw rhyw gynhwysyn arbennig? Os felly, bydd raid cael canran benodol o’r cynhwysyn hwnnw’n aml iawn. Chewch chi ddim galw byrger yn ‘fyrger cig eidion’ os nad yw’n cynnwys 65% o leiaf o gig eidion coch.

Rhaid i’r enw ddisgrifio pa fath o fwyd yw e. Os yw’r bwyd wedi cael ei brosesu, rhaid i’r enw ddisgrifio’r broses, e.e. ‘eog wedi’i fygu’.

Rhestr Cynhwysion

Oes mwy nag un cynhwysyn unigol yn y cynnyrch? Rhaid rhoi rhestr lawn o’r cynhwysion i gyd. Rhaid rhestru’r cynhwysion yn ôl faint eu pwysau adeg paratoi’r cynnyrch, gyda’r un trymaf yn gyntaf. Rhaid rhestru ychwanegion yn ôl eu swyddogaeth yn gyntaf, ac yna’u henwau cyfresol neu benodol, e.e. ‘Cadwolyn: E220’, neu ‘Cadwolyn: sylffwr deuocsid’.

Mae yna hawl i labelu cyflasyn fel ‘blas’, heb roi enw penodol. Mae yna hawl i gyfeirio at startsh wedi’i addasu fel ‘Startsh wedi’i Addasu’ a dim mwy.

Cyfarwyddiadau Storio

Os ydy nwyddau’n ddarfodus ac wedi’u rhagbacio, bydd cyfarwyddiadau storio arnyn nhw. Bydd y cyfarwddiadau yma’n cynghori defnyddwyr ar sut i gadw’r nwyddau mor ffres ag sy’n bosibl, am yr amser hiraf posibl. Fe all y cyfarwyddiadau fod yn fodd i gadw’r bwyd yn ddiogel – e.e. drwy ddweud bod rhaid dodi’r bwyd mewn oergell ar ôl ei agor.

Dyddiadau Parhauster

Dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’

Mae rhai bwydydd ffres yn gallu dirywio’n gyflym. (Pysgod, cig ffres, cynhyrchion cig, llaeth, ayyb). Bydd rhai’n anniogel i’w bwyta mewn amser byr iawn. Dyna pam mae dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’ arnyn nhw.

Sut i ddefnyddio dyddiadau ‘defnyddio erbyn’:

  • Peidiwch â bwyta nac yfed dim ar ôl y dyddiad. Does dim ots os oes dim o’i le ar y blas na’r arogl.
  • Dydy’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn werth dim os byddwch chi heb ddilyn y cyfarwyddiadau storio. Er enghraifft, bydd llaeth yn troi’n gynt os byddwch chi heb ei roi yn yr oergell.
  • Mae modd cadw rhai bwydydd yn hirach drwy’u rewi. Os felly, bydd modd ei fwyta weithiau ar ôl y dyddiad ‘Defnyddio erbyn’.
  • Oes cyfarwyddiadau coginio/paratoi/storio ar y pecyn, rhaid ichi’u dilyn nhw bob amser.
  • Gyda rhai bwydydd, mae modd eu cadw tan y dyddiad ‘Defnyddio erbyn’ os byddwch chi heb eu hagor. Os byddan nhw wedi cael eu hagor, amser byr iawn fydd i’w bwyta. Os yfory yw’r dyddiad ‘Defnyddio erbyn’, rhaid bwyta’r bwyd erbyn diwedd yfory.

Dyddiadau ‘Gorau cyn’

Bydd dyddiadau ‘Gorau cyn’ i’w gweld yn amlach ar nwyddau sefydlog neu ddarfodus – nwyddau mewn tuniau, er enghraifft, neu wedi’u rhewi neu’u sychu.

Sut i ddefnyddio dyddiadau ‘Gorau cyn’:

  • Mae’r gair ‘Gorau’ yn cyfeirio at ansawdd bwyd, nid at ba mor ddiogel fydd e. Bydd y bwyd o ansawdd rhesymol ar gyfer bwyta hyd at y dyddiad ‘Gorau cyn’.
  • Rhaid ichi ddilyn y cyfarwyddiadau storio ar y pecyn. Os cadwch chi at y rhain, fe gewch fwynhau’r bwyd ar ei orau.

Dyddiadau eraill

Bydd dyddiad ‘Dangos tan’ neu ‘Arddangos tan’ ar rai nwyddau. Ffordd o helpu siopau i reoli’u stoc yw hyn. Dydy e ddim yn berthnasol i bobl sy’n prynu nwyddau.

Enw a Chyfeiriad

Rhaid i label y nwyddau ddangos enwau a chyfeiriadau’r rhai sy’n gwneud, gweithgynhyrchu, pacio, mewnforio, neu werthu’r nwyddau. Os byddwch chi am wneud sylw am y nwyddau, bydd modd ichi fynd yn syth at y cwmni.

Gwlad Tarddiad

Weithiau, byddai peidio â dweud o ba wlad mae nwyddau’n tarddu yn camarwain y defnyddwyr. Er enghraifft, fe ddylai’r label dweud os yw pitsa ‘Eidalaidd’ wedi’i wneud ym Mhrydain.

Gwybodaeth faethol

Mewn dwy sefyllfa mae rhoi gwybodaeth faethol yn orfodol. Rhaid ei rhoi os bydd defnyddwyr yn gofyn amdani. Ac os yw’r label yn honni bod y bwyd neu ‘fraster isel’ neu’n ‘ffibr uchel’, rhaid i’r wybodaeth faethol brofi hynny. Ac os bydd y cwmni’n dewis dangos gwybodaeth faethol fodd bynnag, rhaid gwneud hynny yn unol â’r rheoliadau perthnasol.

Dyma’r manylion welwch chi mewn Gwybodaeth faethol:

Egni

Caiff egni’i fesur mewn calorïau (kcal) neu joule (kj).

Protein

Mae llawer o brotein i’w gael mewn bwydydd megis cig, pysgod, a chynnyrch soia. Mae protein yn bwysig iawn i dwf ac atgyweirio meinweoedd y corff.

Carbohydrad

Mae carbohydradau i’w cael mewn bwydydd megis tatws, bara, pasta a reis. Startsh a siwgr yw’r ddau fath pwysica o garbohydrad. Bydd labeli gwybodaeth faethol yn dweud wrthych chi faint o’r carbohydradau sy’n siwgr. (Startsh fydd y gweddill).

Startsh

O startsh y daw’r rhan fwya o’n hegni ni, yn hytrach nag o fraster neu siwgr.

Siwgr

Mae hyn yn cynnwys dau fath o siwgr. Mae sawl siwgr i’w gael mewn bwyd yn naturiol, e.e. ffrwctos mewn ffrwythau. Weithiau, bydd cwmnïau’n ychwanegu mathau o siwgr sydd wedi’u puro, e.e. swcros a glwcos. Mae’r rhain yn gallu bod yn fwy niweidiol, yn enwedig i’r dannedd.

Braster dirlawn

Dyma’r math mwyaf niweidiol o fraster. Mae’n gallu codi lefelau colesterol yn sylweddol. Gall hyn arwain yn ei dro at salwch y galon. Mae braster dirlawn yn gyffredin iawn mewn bwydydd megis caws, selsig, pasteiod, ac ymenyn.

Brasterau monoannirlawn a pholyannirlawn

Dydy braster monoannirlawn ddim yn effeithio ar golesterol. (Fe’i ceir mewn olew olewydd ac olew hadau rêp) Mae braster polyannirlawn yn tynnu lefelau colesterol i lawr. (Fe geir hwn mewn olew blodau’r haul ac olew soia). Ond cofiwch taw braster ydyn nhw – fe allen nhw beri ichi fagu pwysau.

Ffeibr deietegol

Mae llawer o hwn i’w gael mewn bwydydd megis bara gwenith cyflawn, ffa pob, ffrwythau, a llysiau. Mae’n fodd i osgoi mynd yn rhwym neu fagu’r peils.

Sodiwm

O halen y daw’r rhan fwyaf o’r sodiwm mewn bwyd. Mae’n gallu codi pwyau’r gwaed. Gwell ei osgoi.

Y lwfansau egni dyddiol a argymhellir

Y lwfansau egni dyddiol a argymhellir

Oed

Plant

Dynion

Menywod

1 i 3

102 kcal/kg (1300 kcal/dydd)

-

-

4 i 6 :

90 kcal/kg (1800 kcal/dydd)

-

-

7 i 10 :

70 kcal/kg (2000 kcal/dydd)

-

-

11 i 4

-

55 kcal/kg (2500 kcal/dydd)

47 kcal/kg (2200 kcal/dydd)

15 i 8 :

-

45 kcal/kg (3000 kcal/dydd)

40 kcal/kg (2200 kcal/dydd)

19 i 4 :

-

40 kcal/kg (2900 kcal/dydd)

38 kcal/kg (2200 kcal/dydd)

25 i 50 :

-

37 kcal/kg (2900 kcal/dydd)

36 kcal/kg (2200 kcal/dydd)

dros 51 :

-

30 kcal/kg (2300 kcal/dydd)

30 kcal/kg (1900 kcal/dydd)

Meintiau

Bydd rhai mathau o fwyd yn cael eu gwerthu mewn ‘meintiau rhagnodedig’. Er enghraifft, rhaid gwerthu bara wedi’i ragbacio fesul 400g. Rhaid nodi’r faint gyda bwydydd bron yn ddieithriad. Mae’r holl wybodaeth ynglŷn â meintiau yn cyfeirio at y ‘pwysau glân’, h.y. y pwysau heb y pecyn.

Datganiadau Cynhwysion Meintiol (DCM)

Os bydd datganiad am faint o ryw gynhwysyn sydd yn y bwyd, rhaid cyfeirio at:

  • cynhwysion sy’n cael eu crybwyll yn enw’r bwyd, e.e. ‘Pastai Caws a Winwns’
  • meintiau penodol o’r cynhwysyn sy’n cael ei grybwyll, e.e. ‘caws ychwanegol’
  • cynhwsyion sy’n cael eu cysylltu fel arfer â’r bwyd dan sylw, e.e. ffrwythau meddal coch mewn pwdin haf.

Honiadau Arbennig

Weithiau, bydd y label ar fwydydd neu ddiodydd yn honni’u bod yn ‘isel eu calorïau’, yn ‘ddiodydd deiet’, bod eu cynnwys yn ‘uchel mewn braster polyannirlawn’, neu’n ‘llawn fitaminau’. Rhaid i’r wybodaeth faethol brofi hyn i gyd yn glir. Mae rheoliadau arbennig mewn grym ynglŷn â honiadau, a rhaid cydymffurfio â’r rhain i gyd.

Pan gaiff yr eitem ei gwerthu i’w defnyddiwr terfynol, mae’n ofynnol i’r pecyn fod wedi’i selio’n llwyr.

Labelu Diodydd Alcoholaidd

Diod alcoholaidd yw un sy’n cynnwys mwy na 1.2% o alcohol. Rhaid i’r label ddangos hynny. Rhaid i’r pecyn ddangos faint yn union yw’r ganran o alcohol, e.e. "Alcohol X%" neu "Alc X%". Rhaid dangos hyn mewn diodydd sy’n cael eu gwerthu mewn tafarnau neu mewn tai bwyta hefyd.

Labelu Bwydydd a Addaswyd yn Enetig

Un o ddulliau biotechnoleg yw addasu genetig. Bydd y gwyddonwyr yn defnyddio genynnau mewn organedd er mwyn cryfhau rhai penodol o’i nodweddion biolegol.

Mae cwmni cynhyrchu a chyflenwi bwyd wedi defnyddio biotechnoleg mewn nifer o ffyrdd. Cafodd bwydydd eu haddasu i’w storio am gyfnodau hirach, neu i roi rhagor o faeth.

Bydd diogelwch bwydydd a addaswyd yn enetig yn cael ei asesu’n drylwyr. Ond mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydnabod fod rhai pobl am beidio â’u prynu. Gan hynny, os bydd bwydydd wedi’u haddasu’n enetig, rhaid i’w labeli ddangos hynny.

Hoffech chi ragor o wybodaeth am ddiogelwch bwydydd a adadswyd yn enetig a’r profion arnyn nhw? Diddordeb mewn sut maen nhw’n cael eu gwerthu? Edrychwch ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Labelu Bwydydd Organig

Rhaid i bob cynnyrch organig gynnwys dim ond bwyd a gafodd ei ffermio’n organig. Rhaid peidio a defnyddio gwrteithiau neu blaladdwyr sydd heb gael eu cymeradwyo’n rhai organig. Ac yn ystod y cyfnod trosi (dwy flynedd fel arfer), rhaid ffermio’r tir lle cafodd ei dyfu mewn ffordd organig. Fel arall, does dim hawl gwerthu’r cynnyrch fel bwyd organig.

Mae hawl gyda gwneuthurwur bwyd organig i ddefnyddio rhywfaint o gynhyrchion anorganaidd cymeradwy. Ond rhaid i 95% o’r cynhwysion fod yn organig. Os oes dim ond 70-95% o gynhwysion organig mewn rhyw fwyd, dydy e DDIM i gael ei alw’n fwyd organig. Ond mae croeso i nodi’r cynhwysion organig ar y pecyn.

Os yw gwneuthurwyr bwyd am gael eu galw’n ‘organig’, rhaid iddyn nhw gofrestru gyda chorff ardystio organig. Rhaid iddyn nhw roi enw’r corff ardystio ar eu pecynnau. Rhaid i’r labeli gynnwys rhif côd, ac maen nhw’n cael dangos enw neu nod masnach y corff ardystio.

Dydy pob cynhwysyn ddim yn mynd i fod ar ffurf organig o reidrwydd. Gan hynny, fydd hi ddim yn bosibl i wneud bwydydd o gynhwysion hollol organig bob tro.

Alergeddau Bwyd

Mae gan lawer o bobl alergedd i wahanol fwydydd. Gan hynny, byddan nhw am osgoi’r bwydydd yma. Dyna pam mae’r Llwyodraeth wedi pasio deddfau i roi rhestr gynhwysfawr o gynhwysion ar becynnau bwyd a diod. (Mae hyn yn cynnwys diodydd alcoholig). Bydd hyn yn fodd i gwmseriaid osgoi’r cynhwysion bwyd yma:

  • Grawnfwydydd yn cynnwys glwten
  • Cramenogion
  • Pysgod
  • Wyau
  • Cnau mwnci
  • Ffa soia
  • Llaeth a chynnyrch llaeth (yn cynnwys lactos)
  • Cnau a chynnyrch cnau
  • Seleri
  • Mwstard
  • Hadau sesame
  • Sylffwr deuocsid a sylffitau ar lefel sydd dros 10mg/kg neu 10mg/litr wedi’u mynegi fel SO2

Rhaid bellach i gydrannau unigol cynhwysyn cyfansawdd sy’n llai na 25% o’r cynnyrch gorffenedig gael eu rhestru.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn awgrymu fod dim angen rhestru’r cynhwysion i gyd yn yr amgylchiadau canlynol:

  • lle mae cynhwysion cyfansawdd yn llai na 5% o’r cynnyrch goffenedig
  • lle mae sawsiau a mwstardau yn llai na 5% o’r cynnyrch gorffenedig
  • lle mae perlysiau a sbeisys mewn cymysgeddau o berlysiau a sbeisys yn llai na 2% o’r cynnyrch gorffenedig

Manylion Cyswllt

Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Carfan Safonau Bwydydd ac Amaeth

Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 01443 425301
Ebost: tradingstandards@rhondda-cynon-taff.gov.uk