Cymorth Chwilio

Dyma rai awgrymiadau ynglŷn â chwilio’r wefan.

Dewis geiriau’n ofalus

Defnyddiwch eiriau penodol er mwyn rhoi disgrifiad manwl o’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Mae termau mwy cyffredinol yn dod o hyd i ragor o dudalennau, felly ceisiwch chwilio mewn dull mwy penodol..

Er enghraifft:

  • Rhowch gynnig ar “taliadau Treth y Cyngor” yn lle “talu biliau”;
  • Defnyddiwch “ceisiadau cynllunio” yn lle “adeiladu”

Geiriau i’w cynnwys neu’u hepgor

Wrth reswm, mae’r chwilotwr yn dod i hyd i’r tudalennau sy’n cynnwys pob gair rydych chi’n chwilio amdanyn nhw, heblaw am eiriau cyffredin iawn, megis “mae” a “sut”. Mae’r geiriau yma i’w gweld ar gymaint o dudalennau, felly fyddan nhw ddim o gymorth i chi wrth chwilio.

  • Geiriau i’w cynnwys: Os ydych chi eisiau cynnwys geiriau, rhowch arwydd ‘+’ o’u blaenau nhw. Er enghraifft, os ydych chi eisiau dod o hyd i dudalennau sy’n sôn am yr holl fudd-daliadau a grantiau sydd ar gael, ond prydau ysgol am ddim yn benodol, chwiliwch am “budd-daliadau +prydau +ysgol +am ddim”;
  • Geiriau i’w hepgor: Os ydych chi eisiau hepgor geiriau, rhowch arwydd ‘-’ o’u blaenau nhw. Fydd tudalennau sy’n cynnwys y geiriau yma ddim yn ymddangos. Er enghraifft, os ydych chi eisiau dod o hyd i dudalennau sy’n sôn am anifeiliaid, ond nid cŵn, chwiliwch am “anifeiliaid – cŵn”.

Naill ai ... neu ...

Os ydych chi eisiau dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â dau beth neu ragor, defnyddiwch ‘NEU’ mewn priflythrennau. Er enghraifft, chwiliwch am “ceisiadau cynllunio NEU rheolaeth ar faterion adeiladu”.

Trefn y geiriau

Os ydych chi eisiau chwilio am ymadrodd penodol, rhowch y geiriau mewn dyfynodau. Er enghraifft, chwiliwch am “budd-dal treth y cyngor” (gan gynnwys y dyfynodau).

Canlyniadau tebyg

Rydyn ni’n cynnig rhai argymhellion hefyd. Os oes rhywun arall eisoes wedi chwilio am bethau tebyg ar y wefan yma, bydd dolennau cyswllt i’w gweld o dan y blwch chwilio ar frig tudalen y canlyniadau.