Ein nod ni yw ei gwneud hi mor hwylus ag y bo modd i chi gyrchu'r wefan. I wneud hynny, byddwn ni'n gosod ffeiliau bach sy'n cynnwys data ar eich dyfais (cyfrifiadur, ffôn glyfar, cyfrifiadur 'llechen', ac ati). Cwcis rydyn ni'n galw'r ffeiliau hyn. A siarad yn gyffredinol, bydd llawer o wefannau eraill yn eu defnyddio nhw hefyd.
Byddan nhw'n gwneud pethau'n fwy hwylus i chi trwy:
-
cofio'ch dewisiadau (neu osodiadau) fel na fydd eisiau ichi'u dewis/teipio nhw byth-a-hefyd. (er enghraifft, dewis fersiwn Cymraeg neu Saesneg)
-
cofio'r wybodaeth byddwch chi eisoes wedi'i darparu fel na fydd eisiau ichi'i hailgyflwyno dro ar ôl tro. (Er enghraifft, manylion cyswllt).
-
Mesur sut mae'n gwefan yn cael ei defnyddio, fel bydd modd inni bennu blaenoriaeth ar gyfer ei gwella.
Mae modd ichi drefnu a/neu ddileu'r ffeiliau bach hyn fel y dymunwch. Hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â'r ffeiliau bach (cwcis) a sut mae'u rheoli nhw, galwch heibio i www.aboutcookies.org|.
Sut byddwn ni'n defnyddio cwcis?
Mae'r wefan yn defnyddio ar gyfer sawl peth – mae rhestr o bob un isod, ynghyd â rhesymau dros eu defnyddio, ac am faint byddan nhw'n para.
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn ni'n rhoi gwybod ichi cyn inni osod ffeil fach/cwci ar eich dyfais.
Cadw'ch dewis iaith
Ar ein tudalen croeso, fe welwch chi fod modd ichi ddewis eich iaith (Cymraeg neu Saesneg). Ar ôl dewis iaith, byddwn ni'n gosod cwci. Mae hynny'n golygu na fydd eisiau ichi nodi'ch dewis iaith bob tro byddwch chi'n defnyddio'r wefan hon.
Nodwch:O roi tic wrth ymyl naill ai "Cofiwch fy newis iaith" neu "Remember my language", byddwch chi'n rhoi'ch caniatâd inni osod ffeil fach ar eich dyfais.
Dewis iaith
|
|
|
Enw:
|
Math o gynnwys i'w weld
|
Yn dod i ben
|
|
Iaith
|
Talfyriadau iaith CY neu EN
|
14 diwrnod
|
Cadw'ch dewis ar gyfer adborth
O bryd i'w gilydd, bydd ein gwefan yn dangos blwch sy'n gofyn a fyddech chi'n fodlon llenwi holiadur Cymdeithas Rheoli Technoleg Gwybodaeth (SOCITM) Insight ynglŷn â'r wefan. Pan fyddwch chi'n dewis, byddwn ni'n gosod ffeil fach i gofio'ch dewis fel na fyddwn ni'n dangos yr un blwch eto. Byddwn ni'n gosod ffeil fach arall ar ôl ichi lenwi'r holiadur fel na fydd eisiau ichi lenwi'r holiadur am yr eildro. Mae SOCITM Insight yn rhoi rhagor o fanylion i chi ar dudalen preifatrwydd a chwcis ei gwefan SOCITM|.
Cwci adborth
|
Enw:
|
Math o gynnwys i'w weld
|
Yn dod i ben
|
Socitm_include_me[x]
Socitm_exclude_me{x]
Socitm_exclude_alt[x]
|
True or false
|
365 diwrnod
|
Cadw'ch dewis ar gyfer e-ffurflenni
Mae'n ffurflenni ar ein gwefan yn defnyddio ffeiliau bach i gofio manylion cyswllt fel na fydd eisiau ichi lenwi'r un manylion bob tro byddwch chi'n defnyddio un o'r ffurflenni trwy'n gwefan. Os na fyddwch chi'n ticio'r blwch ar ein ffurflenni i gadw'r manylion, fyddwn ni ddim yn gosod cwci ar eich dyfais, a bydd eisiau ichi gyflwyno'r manylion cyswllt bob tro byddwch chi'n defnyddio'n ffurflenni ar-lein. Mae'n bosibl y byddai'r ffurflen yn cynnwys gwybodaeth bersonol a fyddai modd i'ch adnabod chi, felly bydd y cwci wedi'i amgryptio.
Nodwch: O roi tic wrth ymyl naill ai "Cofiwch fy newis iaith" neu "Remember my language", byddwch chi'n rhoi'ch caniatâd inni osod ffeil fach ar eich dyfais.
Cwci e-ffurflenni
|
Enw:
|
Math o gynnwys i'w weld
|
Yn dod i ben
|
|
Smrof_tcr
|
Manylion cyswllt wedi'i amgryptio
|
365 diwrnod
|
Mesur y defnydd ar y wefan a phennu problemau (Google Analystics)
Byddwn ni'n defnyddio cwcis Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn cyrchu'r wefan hon, ac am unrhyw broblemau sy'n dod i'r amlwg (cysylltau sydd ddim yn gweithio, er enghraifft). Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth ynghylch y tudalennau rydych chi wedi'u gweld, am faint roeddech chi'n cyrchu'r wefan, sut cawsoch chi'ch cyfeirio at y wefan, ac ar yr hyn rydych chi'n clicio. Fyddwn ni ddim yn cadw'ch gwybodaeth bersonol, felly fydd dim modd i neb eich adnabod chi trwy'r wybodaeth hon. Dydyn ni ddim yn caniatáu i Google ddefnyddio'n data na'i rhannu.
Rydyn ni'n defnyddio Google Analytics i ofalu bod ein gwefan yn diwallu'ch anghenion chi o ran ei chyrchu, ac yn gymorth inni flaenoriaethu unrhyw welliannau. Mae Google yn rhoi rhagor o wybodaeth am ei bolisi preifatrwydd a chwcis ar ei wefan||. Mae Google hefyd yn darparu dyfais ychwanegol yn eich porwr|| a fyddai'n rhoi dewis ichi beidio â bod yn rhan o Google Analytics yn achos pob gwefan.
Cwcis Google Analystics
|
Enw:
|
Math o gynnwys i'w weld
|
Yn dod i ben
|
|
_utma
|
rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap
|
2 flynedd
|
|
_utmb
|
rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap
|
30 munud
|
|
_utmc
|
rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap
|
Pan fyddwch chi'n cau'ch porwr
|
|
_utmz
|
rhyw rif sydd wedi'i greu ar hap ynghyd â gwybodaeth ar sut cawsoch chi'ch cyfeirio at y wefan (e.e. yn uniongyrchol neu drwy gyswllt, chwilio ac ati)
|
6 mis
|
Adrannau sydd eisiau ichi gofrestru/mewngofnodi
Os bydd adran o'n gwefan yn gofyn i chi gofrestru/mewngofnodi a bod cwci yn perthyn i'r dudalen, darllenwch y telerau ac amodau sydd i'w gweld yn glir ar y dudalen cofrestru. Trwy gofrestru byddwch chi'n rhoi caniatâd inni osod cwci ar eich dyfais ar gyfer defnyddio'r cyfleuster dan sylw.